Cynhyrchwyd y ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCIS) i gefnogi cyrff llywodraethu ysgolion a cholegau Cymru.
Gall hefyd fod o ddiddordeb i awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb sydd â chyfrifoldeb arweiniol am ddiogelwch ar-lein.
Nod y ddogfen hon yw helpu cyrff llywodraethu i ymgymryd â’u dyletswyddau diogelu fel bwrdd llywodraethu. Gellir ei hystyried yn ddogfen ategol i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru Cadw dysgwyr yn ddiogel, sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant. Mae hyn yn cynnwys helpu ysgolion i ddarparu amgylchedd diogel, cyfrifol a chefnogol ar gyfer dysgu, ac atal mynediad at gynnwys amhriodol neu niweidiol.
Nid oes angen cymryd camau. Canllaw yn unig yw’r ddogfen hon, a’i bwriad yw helpu cyrff llywodraethu i sicrhau y caiff arferion da o ran polisïau a darpariaeth diogelwch ar-lein eu dilyn yn eu hysgol neu goleg.
Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon at:
Y Gangen Cadernid Digidol mewn Addysg
Uned Dysgu Digidol
Is-adran Cyfathrebu Digidol a Strategol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: cymorth@hwbcymru.net
Beth i chwilio amdano?
Gwaith adolygu rheolaidd sy'n systematig ac yn cael ei gofnodi o bolisïau diogelu, gan gynnwys diogelwch ar-lein, o leiaf unwaith y flwyddyn.
Tystiolaeth bod polisïau diogelwch ar-lein ar gael yn rhwydd ac yn cael eu cyfleu'n glir (er enghraifft, ar wefan yr ysgol/y coleg, mewn llawlyfrau staff, ar bosteri, ac ati).
Dysgwyr, staff a rhieni a gofalwyr sy'n ymwybodol o reolau a disgwyliadau o ran diogelwch ar-lein, ac yn eu parchu.
Beth yw arfer da?
Cydweithio wrth gynhyrchu ac adolygu polisïau, er enghraifft, tystiolaeth bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei defnyddio'n weithredol yn ogystal â thystiolaeth bod ystyriaeth berthnasol yn cael ei rhoi i safonau cenedlaethol a rhyngwladol mewn perthynas â diogelwch ar-lein.
Tystiolaeth o brosesau monitro a gwerthuso er mwyn sicrhau y caiff polisïau diogelwch ar-lein eu deall a'u dilyn.
Dysgwyr, staff a rhieni a gofalwyr sy'n effro i ymddygiadau a disgwyliadau o ran diogelwch ar-lein, gan gynnwys y defnydd derbyniol o dechnolegau a'r defnydd o dechnoleg symudol.
Polisi diogelu plant yr ysgol neu goleg yn cydnabod pryderon ynghylch camdriniaeth rhwng cyfoedion sy'n gallu digwydd ar-lein.
Polisïau diogelwch ar-lein sy'n gysylltiedig â pholisïau eraill neu'n rhan ohonynt, megis polisïau diogelu ac amddiffyn plant, polisi ymddygiad dysgwyr (gan gynnwys gwrth-fwlio), cod ymddygiad staff.
Polisïau nad ydynt yn defnyddio iaith sy'n beio'r dioddefwr, ond yn hytrach yn herio iaith o'r fath lle y bo'n briodol, ac yn derbyn nad yw plant byth yn gyfrifol am y niwed y gallant ei brofi, yn arbennig wrth ystyried cyd-destun ar-lein/natur hollbresennol technoleg y cyfryngau cymdeithasol.
Pryd y dylech fod yn bryderus?
Dim polisïau diogelwch ar-lein neu rai tenau iawn.
Polisïau sy'n gyffredinol ac nad ydynt yn berthnasol yn benodol i anghenion dysgwyr yn yr ysgol neu goleg.
Dim gwaith i adolygu polisïau diogelwch ar-lein neu waith adolygu afreolaidd. Polisïau yn bodoli ond nid ydynt yn cael eu hyrwyddo i gorff yr ysgol neu goleg a/neu nid ydynt yn gyfarwydd i'r staff, y dysgwyr na'r rhieni a gofalwyr.
Beth i chwilio amdano?
Diogelwch ar-lein yn cael ei nodi'n glir fel mater diogelu o fewn rolau a chyfrifoldebau pob aelod o staff yr ysgol neu goleg, gyda'r uwch-berson dynodedig ar gyfer amddiffyn plant yn cadw'r cyfrifoldeb cyffredinol.
Dull gweithredu ysgol gyfan/coleg cyfan, gyda sianeli hysbysu cadarn a gaiff eu diffinio'n dda a'u deall yn glir, ac sy'n gyson ac yn gyfarwydd i holl staff yr ysgol neu goleg, y dysgwr a'r rhieni a gofalwyr.
Gweithdrefnau amlwg a gofnodwyd yn glir ar gyfer ymateb i wahanol risgiau ar-lein, er enghraifft, secstio, tynnu lluniau ar y slei ('upskirting'), bwlio ar-lein a meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Dysgwyr, staff a rhieni a gofalwyr sy'n deall natur sensitif camdriniaeth ar-lein yn ogystal â hawliau unigolion.
Cysylltiadau â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol eraill, er enghraifft, chwythu'r chwiban, rheoli honiadau, cwynion, ac ati.
Staff arweinyddiaeth sy'n ymwybodol o'r penderfyniadau a wneir gan yr ysgol neu goleg mewn perthynas â rhoi trefniadau hidlo a monitro priodol ar waith ac sy'n deall y penderfyniadau hyn.
Gwaith adolygu rheolaidd o ddarpariaethau hidlo a monitro fel rhan o gyfrifoldebau diogelu, er enghraifft, tystiolaeth o gyfathrebu rhwng staff technegol ac uwch-bersonau dynodedig.
Beth yw arfer da?
Adolygu darpariaeth yn rheolaidd gan ddefnyddio adnodd hunan-adolygu 360 Safe Cymru a chynnwys adolygiad 360 mewn cyfarfodydd tîm.
Systemau hysbysu ar-lein ar gyfer dysgwyr a rhieni a gofalwyr.
Pob aelod o staff yn ymwybodol o ffynonellau cymorth ar gyfer materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, megis y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol, Rhoi Gwybod am Gynnwys Niweidiol, CEOP a Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd.
Uwch-berson dynodedig a dirprwyon sydd â'r sgiliau priodol ac sydd wedi cael eu hyfforddi i ddelio â'r gwahanol risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ar-lein. Gall fod aelodau ychwanegol o'r staff wedi'u henwebu i roi cymorth yn y maes hwn gan ddefnyddio eu harbenigedd.
Dylai pob aelod o'r staff gael hyfforddiant priodol ar ddiogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys diogelwch ar-lein, sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.
Strategaethau cymorth gan gyfoedion effeithiol sydd wedi'u cynllunio, er enghraifft, systemau hysbysu/prosesau uwchgyfeirio a gefnogir gan holl staff yr ysgol neu goleg.
Gwaith archwilio ymddygiad a risgiau ar-lein sy'n darparu gwybodaeth sylfaenol gan y dysgwyr am y lefelau a'r mathau o faterion ar-lein sy'n gyffredin yn yr ysgol neu goleg.
Dysgwyr yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r ddarpariaeth gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd eu hunain, gweithgareddau cyfoedion, a gweithgareddau llais y dysgwr.
Gwaith gwerthuso rheolaidd mewn perthynas â sianeli hysbysu a gweithdrefnau ymateb.
Gwybodaeth a data am ddiogelwch ar-lein yn cael eu nodi yn adroddiad y pennaeth i'r corff llywodraethu.
Penderfyniadau priodol ynghylch hidlo a monitro yn cael eu hadolygu'n rheolaidd yn unol ag anghenion yr ysgol neu goleg a gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu'n glir i'r staff, y dysgwyr a'r rhieni a gofalwyr.
Pryd y dylech fod yn bryderus?
Dim sianeli hysbysu mewn lle, neu sianeli sy'n aneglur neu'n anghyson.
Dim prosesau cofnodi er mwyn galluogi'r ysgol/y coleg i nodi a monitro pryderon.
Dysgwyr a rhieni a gofalwyr nad ydynt yn ymwybodol o sianeli hysbysu, neu nad ydynt yn ymddiried ynddynt.
Staff yn ansicr sut i gefnogi dysgwyr a rhieni/gofalwyr gyda phryderon ynghylch diogelwch ar-lein.
Nid oes dulliau hidlo a monitro priodol ar waith, a/neu mae diffyg dealltwriaeth o'r penderfyniadau a wneir gan y tîm arweinyddiaeth mewn perthynas â hidlo a monitro priodol.
Beth i chwilio amdano?
Cyfleoedd hyfforddi ar gael yn ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.
Hyfforddiant sy'n gwella gwybodaeth ac arbenigedd y staff o ran ymddygiad diogel a defnydd priodol o dechnoleg.
Archwiliadau o anghenion hyfforddiant yr holl staff.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein sy'n rhan annatod o'r hyfforddiant diogelu sy'n ofynnol ar gyfer pob aelod o'r staff, a gynhelir o leiaf unwaith y flwyddyn. Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein sy'n rhan annatod o broses sefydlu pob aelod newydd o staff.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein a gaiff ei gydlynu gan yr uwch-berson dynodedig.
Tystiolaeth bod yr uwch-berson dynodedig (a'i ddirprwyon) wedi sicrhau bod ganddynt wybodaeth a sgiliau cadarn mewn perthynas â diogelwch ar-lein.
Beth yw arfer da?
Uwch-berson dynodedig a’u dirprwyon â lefel uwch o hyfforddiant, gwybodaeth ac arbenigedd o ran materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, gyda chyfrifoldebau a ddiffinnir yn glir mewn perthynas â darpariaeth diogelwch arlein ar gyfer cymuned yr ysgol/y coleg.
Arbenigedd o ran diogelwch ar-lein yn cael ei ddatblygu ar draws carfan o staff er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth a sgiliau eu trosglwyddo a'u cynnal.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein yn cael ei sefydlu'n glir fel rhan o hyfforddiant diogelu ehangach yr ysgol/y coleg.
Cynnwys hyfforddiant yn cael ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu ymchwil gyfredol a datblygiadau ym maes technoleg yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau lleol.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein yn cael ei roi i bob aelod newydd o staff fel rhan o'r broses sefydlu.
Pryd y dylech fod yn bryderus?
Uwch-berson dynodedig a’u dirprwyon heb hyfforddiant nac awdurdod priodol o ran diogelwch ar-lein.
Dim person neu grwp cydnabyddedig ar gyfer diogelwch ar-lein, neu berson/grwp heb hyfforddiant nac awdurdod priodol.
Diffyg hyfforddiant ar gyfer yr holl staff neu hyfforddiant nad yw'n gyfredol.
Mae rhai aelodau o'r staff heb gael unrhyw hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein.
Nid yw'r staff yn diweddaru eu hyfforddiant yn rheolaidd (o leiaf unwaith y flwyddyn).
Nid yw'r hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein yn diwallu anghenion y staff.
Hyfforddiant yn seiliedig ar hen adnoddau neu ddeunyddiau nad ydynt yn gywir.
Diffyg eglurder ynglyn â phwy sy'n cydlynu hyfforddiant staff.
Beth i chwilio amdano?
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cael ei roi ar waith, a sgiliau, gwybodaeth ac agweddau digidol yn cael eu ymwreiddio ym mhob rhan o'r cwricwlwm a'u cynnwys mewn gwersi.
Rhaglen addysg wedi’i chynllunio ar ddiogelwch ar-lein sy’n:
cael ei haddysgu ar draws pob grwp oedran ac yn datblygu wrth i ddysgwyr dyfu a datblygu
cynyddol ac yn cael ei chynnal dro ar ôl tro yn hytrach na sesiwn untro ar ddiogelwch ar-lein
helpu dysgwyr i ddatblygu strategaethau ar gyfer delio a’r byd ar-lein a datblygu cydnerthedd
cael ei chynnwys ym mhob rhan o’r cwricwlwm
ymgorffori/defnyddio mentrau a chyfleoedd cenedlaethol perthnasol megis Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ac Wythnos Gwrth-fwlio.
Defnyddio adnoddau sy'n briodol ac yn gyfredol.
Defnyddio adnoddau, gan gynnwys ymwelwyr gan ddarparwyr allanol, yn briodol i gefnogi darpariaeth fewnol ac ychwanegu ati.
Priodol ar gyfer dysgwyr o oedrannau a galluoedd gwahanol, megis dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), neu'r rheini sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Dysgwyr yn gallu cofio, esbonio a defnyddio addysg ar ddiogelwch ar-lein.
Athrawon yn cael hyfforddiant priodol, gan sicrhau bod arbenigedd a dealltwriaeth yn sail i'w haddysgu.
Beth yw arfer da?
Caiff diogelwch ar-lein ei ymwreiddio ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol/y coleg. Mae hyn yn golygu y cynllunnir cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder dysgwyr o ran materion sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein fel rhan o bob gwers berthnasol, megis maes Dysgu a Phrofiad Lechyd a Lles gwersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh), addysg cydberthynas a rhywioldeb a Chyfrifiadureg.
Adolygu negeseuon ar ddiogelwch ar-lein ar draws y cwricwlwm yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i ddysgwyr.
Gweithgareddau dysgu sy'n darparu ystod amrywiol o bynciau yn ymwneud â diogelwch ar-lein sy'n adlewyrchu materion cyfredol a rhai sy'n dechrau dod i'r amlwg.
Ymgynghori â dysgwyr yn rheolaidd drwy sianeli priodol (grwpiau dysgwyr, fforymau, ac ati) i gael mewnbwn ar y materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein sy'n berthnasol iddynt.
Pryd y dylech fod yn bryderus?
Sesiynau ad hoc/untro ar ddiogelwch ar-lein, megis sesiynau a gyflwynir mewn gwasanaethau yn unig.
Defnyddio cynnwys sy'n anghywir, yn amherthnasol neu'n hen a/neu'n amhriodol ar gyfer oedran/gallu'r dysgwr.
Defnyddio adnoddau/deunyddiau â dysgwyr sy'n dibynnu ar ddulliau sy'n peri ofn neu fraw neu sy'n beio'r dioddefwr.
Rhaglen astudio nad yw'n gynyddol nac yn gynaliadwy, er enghraifft, un sy'n dibynnu'n helaeth ar ddarparwyr/ymwelwyr allanol i gyflwyno addysg ar ddiogelwch ar-lein a/neu sy'n cael ei chyflwyno mewn ymateb i fater penodol.
Dim ffordd o werthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth nac asesu dealltwriaeth dysgwyr yn y maes.
Nid yw'r ysgol neu goleg yn cynnwys materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein fel rhan o'r ddarpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Nid yw'r ysgol neu goleg yn defnyddio adnodd unan-adolygu '360 degree safe Cymru' i adolygu'r ddarpariaeth yn rheolaidd.
Nid yw'r ysgol neu goleg yn cynnwys cymhwysedd digidol ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol.
Beth i chwilio amdano?
Gweithgareddau rheolaidd i gyfathrebu, codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu ynghylch materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a sianeli hysbysu, megis gwefannau'r ysgol neu goleg, llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyrau.
Cyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â'r rhieni a gofalwyr ynghylch materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein megis gweithdai ymwybyddiaeth.
Rhannu arferion da ag ysgolion eraill mewn clystyrau a/neu'r awdurdod lleol.
Beth yw arfer da?
Ymgysylltu'n rhyngweithiol â rhieni/gofalwyr, gyda'r nod o ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i gefnogi eu plant a phobl ifanc wrth ddelio â risgiau ar-lein, yn ogystal â'u hymwybyddiaeth gyffredinol o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein.
Adnoddau a sesiynau rheolaidd a pherthnasol ar ddiogelwch ar-lein yn cael eu cynnig i rieni a gofalwyr. Bydd adnoddau perthnasol yn mynd i'r afael â risgiau arlein allweddol ac ymddygiadau dysgwyr o oedrannau gwahanol yn yr ysgol neu goleg.
Tystiolaeth o ddysgwyr yn addysgu rhieni/gofalwyr ac aelodau o'r gymuned.
Gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein sydd ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, megis gwybodaeth ar gyfer y rheini sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Parodrwydd i ymgysylltu ag ysgolion eraill ac asiantaethau lleol i hyrwyddo, rhannu, a dysgu o arferion da ac arbenigedd.
Pryd y dylech fod yn bryderus?
Dim ymdrech i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, neu ymdrech wan iawn.
Dim ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, y gymuned ehangach, ysgolion eraill na sefydliadau mewn perthynas â diogelwch ar lein.
Ymddygiadau ar-lein ymysg dysgwyr yn peri pryder dro ar ôl tro (megis plant ifanc yn chwarae gemau a anelir at y glasoed hyn ac oedolion).
Mae adnodd hunan-adolygu 360 degree safe Cymru, ar gael o’r brif ddewislen pan fyddwch wedi mewngofnodi i Hwb. Mae’n helpu ysgolion i adolygu eu polisïau a'u harferion mewn perthynas â diogelwch ar-lein. Dylech gadarnhau bod cyfrif gan yr ysgol ac, os oes cyfrif, pryd cafodd yr adnodd ei ddefnyddio ddiwethaf.
Mae'r Cadw'n ddiogel ar-lein ardal o Hwb yn cynnwys adnoddau ar gyfer dysgwyr, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr addysg a llywodraethwyr ar amrywiaeth o faterion penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein, gan gynnwys bwlio ar-lein, enw da ar-lein a chamwybodaeth.
Mae adnoddau mwy cyffredinol ar gael hefyd, megis y rhestr chwarae Sut i gadw'n ddiogel ar-lein (Llywodraethwyr), sy'n cynnig cyngor ar sut y gallwch helpu eich dysgwyr, eich ysgol a'ch gilydd i gadw'n ddiogel.
Gall ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg gofrestru ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau ar ddiogelwch ar-lein yn y Cadw'n ddiogel ar-lein ardal o Hwb. Gall arweinwyr consortia rhanbarthol digidol roi gwybod os caiff unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi eu cynnal yn eich ardal.
Mae tri modiwl ar ddiogelu ar gael i ymarferwyr addysg, sy'n cefnogi'r canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel. Mae dau fodiwl arall (4 a 5) sy'n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein yn unig. Mae Modiwl 4 ar gyfer athrawon ac mae Modiwl 5 ar gyfer llywodraethwyr.