Mae seiberddiogelwch yn ein helpu i ddiogelu'r dyfeisiau a'r gwasanaethau ar-lein rydyn ni'n eu defnyddio rhag achosion o:
fynediad heb ei awdurdodi
lladrata
difrod
Mewn lleoliad addysg, mae hyn yn golygu cadw dysgwyr, staff a systemau ysgol yn ddiogel rhag bygythiadau seiber.
Er y gall seiberddiogelwch ymddangos yn dechnegol, mae yna gamau syml y gall pawb eu cymryd i leihau risg.
Y ffordd orau o gadw'n ddiogel ar-lein yw deall:
sut mae seiberdroseddwyr yn gweithredu
sut y gellir camddefnyddio technolegau fel AI cynhyrchiol
Er enghraifft, gellir defnyddio AI cynhyrchiol i greu sgamiau argyhoeddiadol, ffugiadau dwfn neu ymosodiadau awtomataidd.
Mae'r fideo canlynol yn stori go iawn o sut all seiberdroseddu gael effaith ddinistriol ar fusnes bach. Mae'n dangos bod seiberdroseddwyr yn soffistigedig iawn yn yr hyn maen nhw'n ei wneud ac nad ydyn nhw’n parchu unrhyw ffiniau.
Mae bygythiadau seiber yn amrywio'n fawr. Mae gwybod beth ydyn nhw yn ein helpu i'w hadnabod ac ymateb iddyn nhw yn effeithiol.
Gwe-rwydo yw pan fydd ymosodwyr yn ymddangos yn dibynadwy er mwyn twyllo pobl i:
ddatgelu gwybodaeth sensitif
clicio ar ddolenni niweidiol
Gall ddigwydd trwy:
gwe-rwydo e-bost (negeseuon e-bost ffug sy'n edrych yn ddibynadwy ac yn real)
SMS-rwydo (gwe-rwydo trwy neges destun)
llais-rwydo (gwe-rwydo trwy alwad ffôn)
gwe-drywanu (ymosodiadau wedi'u targedu ar unigolion neu sefydliadau)
QR-rwydo (gwe-rwydo gan ddefnyddio codau QR)
Gall ymosodwyr ddefnyddio AI i greu fersiynau ffug ond realistig iawn o'r canlynol:
e-byst
negeseuon
galwadau llais
Dylech bob amser:
wirio cyfeiriad e-bost yr anfonwr yn ofalus
edrych am gyfarchion cyffredinol, fel 'Annwyl gwsmer'
edrych am gamgymeriadau sillafu neu ramadeg
bod yn wyliadwrus o geisiadau brys neu atodiadau amheus
Os nad ydych chi'n siŵr, peidiwch â chlicio arnyn nhw. Ewch i wefan swyddogol y sefydliad yn uniongyrchol i ganfod a yw'n ddilys.
Gallwch roi gwybod am ymdrechion gwe-rwydo i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Mae meddalwedd wystlo yn feddalwedd faleisus sy'n cloi'ch ffeiliau neu systemau nes bod pridwerth yn cael ei dalu. Mae'n aml yn lledaenu trwy negeseuon e-bost gwe-rwydo neu lawrlwythiadau anniogel. Mae ysgolion yn arbennig o agored i ymosodiadau fel hyn oherwydd y data sensitif sydd ganddyn nhw. Gall offer AI helpu seiberdroseddwyr i ddod o hyd i wendidau neu awtomeiddio ymosodiadau ar raddfa fawr.
Mae'r fideo canlynol yn esbonio ymhellach beth yw meddalwedd wystlo a sut y gallwn amddiffyn ein hunain.
Mae ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig yn llethu rhwydwaith gyda thraffig, gan wneud systemau'n araf neu'n anhygyrch. Gall yr ymosodiadau hyn amharu ar weithrediadau ysgol a llwyfannau dysgu ar-lein.
Mae'r rhain yn digwydd pan fydd ymosodwyr yn rhyng-gipio negeseuon rhwng 2 barti, yn aml ar Wi-Fi cyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw ddwyn data neu fanylion eraill.
Mae cymryd camau rhagweithiol yn helpu i leihau'r risg o ymosodiadau seiber. Mae'r fideo canlynol yn esbonio beth yw peirianneg gymdeithasol a sut y gallwn amddiffyn ein hunain.
Defnyddiwch gyfrineiriau hir, cymhleth.
Dylech osgoi ailddefnyddio cyfrineiriau ar gyfer mwy nac un cyfrif.
Ystyriwch ddefnyddio rheolwr cyfrinair.
Mae dilysu aml-ffactor yn ychwanegu haen ychwanegol o amddiffyniad trwy ofyn am ail fath o ddilysu (er enghraifft cod a anfonir i'ch ffôn).
Mae dilysu aml-ffactor yn orfodol ar gyfer pob cyfrif Hwb nad yw'n gyfrif dysgwr, megis cyfrifon staff a llywodraethwyr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng Nghanolfan Gymorth Hwb.
Dylech osgoi mynd i gyfrifon sensitif ar Wi-Fi cyhoeddus. Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas i atal pobl rhag edrych ar eich gwaith dros eich ysgwydd.
Gwnewch gopi wrth gefn o ffeiliau pwysig yn rheolaidd i ddiogelu'ch storfa yn y cwmwl neu yriannau allanol. Mae hyn yn helpu i adfer data os bydd ymosodiad.
Cadwch ddyfeisiau, apiau a meddalwedd gwrthfeirysau yn gyfredol. Mae diweddariadau cyson yn cynnwys patsys diogelwch sy'n amddiffyn rhag bygythiadau y gwyddom amdanyn nhw.
Mae bygythiadau seiber yn esblygu. Mae hyfforddiant parhaus yn helpu staff a dysgwyr i gael gwybod am y bygythiadau diweddaraf a bod yn wyliadwrus.
Hyd yn oed gyda chamau amddiffyn cryf, gall ymosodiadau seiber ddigwydd. Mae bod yn barod yn allweddol.
Anogir ysgolion i:
greu cynllun ymateb i ddigwyddiadau seiber gan ddefnyddio'r templed sydd ar gael ar Hwb
adolygu a diweddaru cynlluniau yn rheolaidd i adlewyrchu newidiadau mewn systemau neu staffio
cael mynediad at hyfforddiant gan Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) a Tarian
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a ble i fynd am help.
Wedi'i gynllunio i adnabod a datblygu pobl ifanc ar gyfer gyrfa ym maes seiberddiogelwch.
Cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
Adnoddau i gefnogi gwersi yn yr ystafell ddosbarth am seiberdroseddu.
Wedi'i gynllunio i helpu staff ysgolion i wella seibergadernid.
Canllawiau a thempledi dwyieithog i helpu ysgolion i gynllunio eu hymateb i ddigwyddiad seiber.
Gall ysgolion sy'n defnyddio e-bost a reolir gan Hwb ofyn am efelychiadau gwe-rwydo ar gyfer systemau e-bost i wella ymwybyddiaeth staff.
Canllawiau i helpu i wella dealltwriaeth ysgol o risgiau seiberddiogelwch.
Yn helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol.
Cyngor, adnoddau a chyfleoedd i ysgolion a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn seiberddiogelwch.
Yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio.
Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng gweithgarwch seiber cyfreithlon ac anghyfreithlon trwy'r hyfforddiant hwn.
Yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio.
Canllawiau cyflym ar sgiamiau ar-lein i rieni a gofalwyr.
Cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
Yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio.