Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn broses lle mae rhywun yn dod yn ffrind i berson arall ar-lein ac yn meithrin eu hymddiriedaeth gyda'r bwriad o:
fanipiwleiddio
ecsbloetio
achosi niwed
Mae pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn targedu pobl a allai fod:
yn teimlo'n unig
yn teimlo'n ynysig
yn cael trafferth gyda hunan-barch neu gynnal perthynas
Gallai'r person sy'n gwneud hyn fod yn rhywun y mae'r dioddefwr yn ei adnabod neu'n ddieithryn llwyr.
Mae'r sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol yn aml yn cysylltu â llawer o bobl ar unwaith, gan obeithio y bydd rhai yn ymateb.
Bydd y sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn:
defnyddio sawl llwyfan i gychwyn y cysylltiad
mynnu bod sgyrsiau'n cael eu cadw'n gyfrinachol
ceisio darganfod mwy, megis a yw eu targed ar ei ben ei hun
anfon negeseuon rhywiol, a allai fod yn gynnil i ddechrau, fel canmol sut mae'r person yn edrych
gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion am leoliad eu targed, ei ysgol neu goleg
defnyddio blacmel er mwyn rheoli
Os yw'r targed wedi anfon delweddau, efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn bygwth eu rhannu'n gyhoeddus oni bai bod mwy o ddelweddau yn cael eu hanfon. Pan fydd y bygwth hwn yn cynnwys galwadau am arian, fe'i gelwir yn flacmel rhywiol.
Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ceisio argyhoeddi pobl ifanc eu bod yn cyfathrebu â rhywun yr un oed â nhw trwy ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial i greu'r canlynol yn realistig:
proffil
delweddau
sgwrs
Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i greu delweddau ffug (gan gynnwys lluniau noeth) i dwyllo, manipiwleiddio neu orfodi dioddefwyr.
Nid yw bob amser yn amlwg bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â pherson ifanc. Fodd bynnag, efallai y bydd ambell arwydd sy'n awgrymu nad yw popeth yn iawn. Efallai y byddan nhw, er enghraifft:
yn cadw'u hunain atyn nhw'u hunain, yn ymddangos yn anhapus ac yn cadw cyfrinachau
yn treulio mwy o amser yn siarad ar y rhyngrwyd, gan gadw eu gweithgareddau ar-lein yn breifat
yn stopio gwneud pethau maen nhw fel arfer yn eu mwynhau, fel cwrdd yn gymdeithasol â ffrindiau
bydd ganddyn nhw eitemau newydd, fel dillad neu ffôn symudol, heb ddweud o ble maen nhw'n dod neu'n rhoi esboniad credadwy.
Y chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod a yw person ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn yn wahanol. Gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch ar eich pryderon.
Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn teimlo y gallan nhw ofyn am help oherwydd:
nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod mewn perthynas amhriodol
maen nhw'n credu eu bod mewn perthynas ofalgar ac yn poeni am ei pheryglu
efallai eu bod yn ofni beth fydd y person sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ei wneud os ydyn nhw'n dweud wrth rywun
dydyn nhw ddim eisiau gweld y person sy'n meithrin perthynas amhriodol mewn trafferth
maen nhw'n teimlo eu bod nhw ar fai
maen nhw'n teimlo embaras
Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu adnabod arwyddion perthynas amhriodol a cham-drin a theimlo'n hyderus yn dweud wrth rywun. Gallwch eu cefnogi drwy:
eu haddysgu nhw am berthnasoedd iach
cael sgyrsiau am breifatrwydd a pham y dylen nhw fod yn ofalus gyda'u gwybodaeth bersonol
dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy all weld eu cynnwys
esbonio pam na ddylen nhw dderbyn cais ffrind gan ddieithriaid neu siarad â dieithriaid mewn sgyrsiau preifat
dysgu iddyn nhw fod yn wyliadwrus o organmol, rhoddion a chynigion sy'n ymddangos yn 'rhy dda i fod yn wir'
eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gadw'n ddiogel ar-lein
eu hannog i ddod i wybod am bobl ddibynadwy a lleoedd diogel y gallan nhw fynd iddyn nhw am gymorth
eu hannog i roi gwybod am ymddygiad amheus
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
Yn darparu gwybodaeth am ymatebion diogelu i blant sydd mewn perygl o gam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein.