Mae blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol yn fath o flacmel. Mae troseddwyr yn bygwth rhannu ar-lein ddelweddau neu fideos noeth neu hanner noeth neu fanylion rhywun, a hynny er mwyn cael arian. Efallai y byddan nhw hefyd yn ecsbloetio eu dioddefwr mewn ffordd arall, megis drwy eu cael i rannu rhagor o ddelweddau.
Mae blacmel rhywiol yn drosedd sy'n peri gofid a all ddigwydd yn aml yn sgil swyno trwy dwyll, sef pan fo person yn defnyddio hunaniaeth ffug i ennill ymddiriedaeth. Mae'n drosedd a all gael ei chyflawni gan unigolion neu grŵp o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd.
Mae'n bwysig pwysleisio'r angen i fod yn wyliadwrus a chefnogi dioddefwyr.
Mae'n bwysig cofio nad yw dioddefwr byth ar fai os ydyn nhw wedi dioddef blacmel ar-lein. Byddan nhw wedi cael eu twyllo, eu meithrin yn amhriodol neu eu perswadio i rannu delwedd.
Os yw plentyn eisoes wedi rhannu delwedd â rhywun sy'n ceisio eu hecsbloetio, cyngor yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yw cymryd y camau canlynol:
Rhoi sicrwydd i’r plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych chi.
Gwneud yn siŵr fod y plentyn yn gwybod nad oes bai arno am yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi gwneud y peth iawn yn gofyn am eich help.
Rhoi gwybod am unrhyw ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu.
Os rhannwyd delwedd neu fideo y plentyn heb ei gydsyniad a bod y plentyn o dan 18 oed, gallwch ei helpu i gael gwared ar y ddelwedd neu’r fideo:
Defnyddiwch Report Remove (Saesneg yn unig), adnodd gan Childline ac Internet Watch Foundation i gael gwared ar ddelweddau sydd wedi'u rhannu neu a allai fod wedi'u rhannu.
Defnyddiwch Take It Down (Saesneg yn unig), adnodd gan National Center for Missing and Exploited Children, i gael gwared ar ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu ar-lein, neu i stopio hynny rhag digwydd.
Rhowch wybod i'r platfform neu'r ap pan fo digwyddiad wedi digwydd.
Mae rhagor o ganllawiau isod er mwyn:
helpu i adnabod yr arwyddion rhybudd
cael sgyrsiau sensitif, cefnogol gyda phlant a phobl ifanc am y mater hwn
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am rannu lluniau noeth, meithrin perthynas amhriodol ar-lein a seiberdroseddu.
Mae'r wybodaeth hon a luniwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn berthnasol i bob ysgol a phob lleoliad addysg yng Nghymru.
Yn helpu ysgolion i ddeall y datblygiadau a'r pryderon diogelwch diweddaraf o ran rhannu delweddau a sut i atal digwyddiadau ac ymateb iddyn nhw.
Yn darparu gwybodaeth am ymatebion diogelu i blant sydd mewn perygl o gam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein.
Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
Mae Llywodraeth Cymru a Hwb yn bartneriaid balch i IWF (Saesneg yn unig). Mae IWF yn sefydliad nid-er-elw ac yn elusen gofrestredig. Mae’n bodoli i ddileu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) o'r rhyngrwyd, a gall gefnogi dioddefwyr blacmel rhywiol.