Mae cynnwys amhriodol neu sy'n tramgwyddo yn gyffredin ar draws y rhyngrwyd. Gall ymddangos yn annisgwyl yn ystod gweithgarwch ar-lein bob dydd. Gall fod ar ffurf:
iaith wael neu amhriodol
delweddau graffig neu sy'n peri gofid
cynnwys rhywiol
cynnwys treisgar
Dyma rai enghreifftiau posibl o gynnwys a chyfathrebu anghyfreithlon:
delweddau o gam-drin neu ecsbloetio
cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn
deunydd sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth
negeseuon llafar neu fathau eraill o gyfryngau sy'n annog trais, gwahaniaethu neu gasineb
aflonyddu (ymddwyn yn gyson mewn ffordd y bwriedir iddi achosi trallod neu fraw, megis galw enwau, bygwth, stelcian neu aflonyddu rhywiol)
twyll a sgamiau ar-lein
creu neu werthu nwyddau anghyfreithlon a ffug
ffrydio neu lawrlwytho cynnwys yn anghyfreithlon
Yn sgil technolegau fel AI cynhyrchiol, gall cynhyrchu a rhannu'r mathau hyn o gynnwys ddigwydd yn gyflymach.
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar lwyfannau ar-lein i amddiffyn defnyddwyr, yn enwedig plant. Ers 25 Gorffennaf 2025, mae dyletswydd gyfreithiol ar lwyfannau i amddiffyn plant ar-lein. Bellach, mae'n ofynnol i lwyfannau ddefnyddio technoleg gwirio oedran hynod effeithiol i atal pobl dan 18 oed rhag cael mynediad at:
bornograffi
cynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu hunanladdiad
cynnwys ynghylch anhwylderau bwyta
Rhaid i lwyfannau hefyd atal plant rhag cael mynediad at unrhyw gynnwys arall niweidiol ac amhriodol i'w hoedran fel:
bwlio
cynnwys sy'n cyfleu casineb
cynnwys sy'n annog styntiau peryglus neu lyncu sylweddau peryglus
Rhaid i lwyfannau hefyd ddarparu ffyrdd clir a hygyrch i rieni a phlant o roi gwybod am broblemau ar-lein pan fyddan nhw’n codi.
Gellir defnyddio gwefan Report Harmful Content i roi gwybod am gynnwys sy'n tramgwyddo neu'n peri gofid fel:
cam-drin neu fygwth ar-lein
cynnwys sy'n ymwneud â hunan-niweidio neu hunanladdiad
ymgais i gyfathrebu'n rhywiol nas dymunir
Gellir rhoi gwybod am ddelweddau neu fideos amhriodol neu rywiol o rywun sydd, yn eich barn chi, o dan 18 oed, i'r Internet Watch Foundation.
Gweler ein tudalen gymorth a chefnogaeth am ragor o wybodaeth am sut i:
roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein
cael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim
Gall gweld cynnwys amhriodol gael effaith negyddol a hirdymor ar blentyn neu berson ifanc. Er mwyn eu helpu i lywio'u ffordd drwy'r byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol, mae'n bwysig eu harfogi â'r elfennau canlynol angenrheidiol:
sgiliau
ymddygiadau
ymwybyddiaeth
Os yw'ch plentyn wedi gweld neu rannu cynnwys anghyfreithlon neu sy'n tramgwyddo, efallai y bydd y peth wedi'u llethu, neu byddan nhw’n teimlo embaras neu'n ansicr sut i siarad amdano. Efallai y bydd rhai plant yn poeni am gael eu beirniadu neu am golli mynediad at eu dyfais. Efallai na fydd eraill yn deall pam ei fod yn broblem. Mae'n bwysig cynnig arweiniad cefnogol heb wylltio.
Fel rhiant neu ofalwr, efallai y byddwch yn teimlo cymysgedd o emosiynau am yr hyn sydd wedi digwydd. Wrth siarad â'ch plentyn:
dewiswch y foment iawn i siarad â'ch plentyn am yr hyn y maen nhw wedi'i weld a sut y gwnaeth iddyn nhw deimlo
peidiwch â gwylltio na beirniadu. Bydd hyn yn eu hannog i fod yn fwy agored
sicrhewch eich plentyn eich bod yn eu cefnogi
ceisiwch ddarganfod ai dod ar draws y cynnwys yn ddamweiniol wnaethon nhw (gan eu sicrhau nad eu bai nhw yw hynny) neu ai mynd i chwilio amdano wnaethon nhw (ceisiwch gael gwybod beth oedd yr ysgogiad iddyn nhw chwilio amdano neu ei greu)
siaradwch am sut i roi gwybod am y cynnwys a'r hyn y gallan nhw ei wneud i leihau'r posibilrwydd y bydd yn digwydd eto
Os yw'ch plentyn yn gyndyn i siarad, efallai y byddwch am awgrymu sefydliadau fel Childline neu Meic. Mae ganddyn nhw gynghorwyr hyfforddedig y gall eich plentyn siarad â nhw am yr hyn y maen nhw’n ei deimlo.