Mae'r defnydd o AI cynhyrchiol yn cynyddu, ac mae ei apêl yn amlwg. Mae ffigurau o Arolwg Llythrennedd Blynyddol 2023 i 2024 y National Literacy Trust (Saesneg yn unig) yn dangos:
bod canran y plant rhwng 13 ac 18 oed sydd wedi defnyddio AI wedi mwy na dyblu, o 37% yn 2023 i 77% yn 2024
mae'r rhesymau dros ddefnyddio AI yn amrywiol ac yn adlewyrchu llawer o agweddau bywyd pobl ifanc yn eu harddegau
mae adloniant, chwilfrydedd, gwaith cartref a cheisio ysbrydoliaeth yn rhesymau cyffredin pam mae plant yn defnyddio AI cynhyrchiol
Mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio offer fel ChatGPT a Google Gemini i helpu gyda gwaith cartref, ymchwil ac astudio. Gellir defnyddio AI cynhyrchiol hefyd i gynhyrchu crynodebau o bynciau cymhleth, darparu esboniadau a hyd yn oed awgrymu syniadau ar gyfer traethodau neu brosiectau. Mae'n hawdd copïo a gludo darn cymhleth o destun a gofyn i'r AI symleiddio'r testun neu egluro tasg mewn ffordd fwy dealladwy.
Ar gyfer pobl ifanc greadigol, mae offer AI cynhyrchiol fel DALL-E a Microsoft Copilot (Image) yn ddefnyddiol i greu syniadau unigryw ar gyfer gwaith celf neu waith dylunio. Gellir defnyddio'r rhain mewn prosiectau ysgol, ar gyfer hobïau, neu hyd yn oed i greu cynnwys ar-lein. Mae offer AI yn gallu dod â chysyniadau dychmygus yn fyw, ac felly'n ddefnyddiol hyd yn oed i’r rhai sydd heb lawer o sgiliau artistig.
Mae modd defnyddio offer AI cynhyrchiol fel My AI ar Snapchat:
i gynhyrchu ymatebion cyflym
i lunio negeseuon unigryw
i greu delweddau y gellir eu rhannu â ffrindiau ar lwyfannau cymdeithasol
Mae'r offer hyn yn caniatáu i bobl ifanc gynnal presenoldeb cyson ar gyfryngau cymdeithasol. Maen nhw'n gwneud hyn trwy greu cynnwys sy'n greadigol, yn ffraeth neu'n ddeniadol yn weledol, a hynny heb fawr o ymdrech.
Nid yw offer AI cynhyrchiol eu hunain yn darparu cyfleoedd rhwydweithio cymdeithasol nac yn fodd i anfon neges ar y platfform. Yn hytrach, gallan nhw chwarae rhan sylweddol wrth wella rhyngweithio cymdeithasol ymhlith defnyddwyr ifanc.