Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cyfeirio at sylwadau neu ymddygiad rhywiol nas dymunir ar unrhyw blatfform digidol. Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd yn gyhoeddus neu'n breifat. Mae'n:
cael ei gydnabod yn fath o drais rhywiol
rhywbeth y gall plant a phobl ifanc fod yn ei weld yn rheolaidd ar-lein, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhan o'r peth eu hunain
Gellir categoreiddio aflonyddu rhywiol ar-lein i 4 prif faes.
Mae hyn yn cyfeirio at rannu neu greu delweddau neu fideos rhywiol o berson heb iddyn nhw fod wedi rhoi eu cydsyniad. Gall gynnwys:
rhannu llun neu fideo o rywun noeth neu hanner noeth heb eu cydsyniad
creu delweddau neu fideos rhywiol heb gydsyniad (gan gynnwys yr hyn y cyfeirir ato weithiau fel lluniau llechwraidd, uwchsbecian neu lawrsbecian)
rhannu delweddau neu fideos rhywiol heb gydsyniad, hyd yn oed os cawsan nhw eu creu yn wreiddiol â chydsyniad
Mae hyn yn cyfeirio at:
fygythiadau rhywiol
blacmel neu orfodaeth i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol ar-lein.
Gall gynnwys:
aflonyddu neu roi pwysau ar rywun ar-lein i rannu delweddau rhywiol neu gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol
bygwth cyhoeddi deunydd rhywiol (delweddau, fideos, sibrydion) i fygylu, gorfodi neu flacmelio rhywun (a elwir hefyd yn flacmel rhywiol)
bygythiadau ar-lein o natur rywiol neu ysgogi eraill i gyflawni trais rhywiol
Mae hyn yn cyfeirio at dargedu person â deunydd neu iaith rywiol gyda'r nod bwriadol o:
eu bychanu
eu cynhyrfu
gwahaniaethu yn eu herbyn
Gall gynnwys:
hel straeon, sibrydion neu gelwyddau am ymddygiad rhywiol a bostiwyd ar-lein
iaith rywiol sy'n tramgwyddo neu'n gwahaniaethu yn erbyn rhywun, neu ddatgan rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol rhywun ar-lein, boed yn wir neu beidio
cywilyddio corfforol (bychanu rhywun drwy wneud sylwadau amhriodol neu negyddol am eu corff)
Mae hyn yn cyfeirio at anfon delweddau neu fideos rhywiol, graffig neu bornograffig nas dymunir at rywun. Gall gynnwys:
anfon neu dderbyn sylwadau, jôcs neu gamau rhywiol nas dymunir
sgorio eraill ar sail atyniad neu weithgarwch rhywiol
creu delweddau rhywiol o berson neu eu newid i'w rhywioli, megis drwy hidlwyr, realiti rhithwir neu fideos ffugiad dwfn
Mae sawl rheswm pam y gallai plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn aflonyddu rhywiol ar-lein. Er enghraifft:
efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli bod yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn anghywir am eu bod yn credu mai jôc neu dynnu coes yw'r cyfan
nid ydyn nhw’n disgwyl i'r peth gael ei herio wrth i'r ymddygiad gael ei normaleiddio
maen nhw’n copïo ymddygiad niweidiol y maen nhw wedi'i weld mewn mannau eraill
maen nhw wedi cael eu dylanwadu gan gyfoedion i ymuno
maen nhw’n ei wneud i frifo neu godi embaras ar rywun yn fwriadol
Gall beio dioddefwyr fod yn rhwystr rhag rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol neu gael help.
Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn dewis peidio â rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol ar-lein oherwydd:
nid ydyn nhw efallai yn deall bod yr ymddygiad hwn yn anghywir
maen nhw’n ei ystyried yn ymddygiad arferol i bobl ifanc yn eu harddegau
maen nhw’n teimlo embaras neu'n poeni mai eu bai nhw yw'r peth
maen nhw’n poeni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf
maen nhw’n teimlo eu bod wedi siomi eu rhieni neu eu gofalwyr
maen nhw’n ei chael yn anodd esbonio
nid ydyn nhw’n barod i ddatgelu eu rhywioldeb
maen nhw’n poeni am siarad oherwydd rhesymau crefyddol neu ddiwylliannol
nid ydyn nhw’n gwybod sut i roi gwybod am y peth
Mae'n bwysig bod pobl ifanc:
yn deall pwysigrwydd agweddau iach sy'n dangos parch ar-lein
yn cael eu grymuso i herio pob math o gam-drin ar-lein yn ddiogel a chael help os oes ei angen arnyn nhw
Efallai y bydd rhai achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn torri'r gyfraith. Bydd yr heddlu yn gallu helpu ysgolion a theuluoedd i benderfynu pa ddeunydd sy'n gymwys fel tystiolaeth a sut orau i gael gafael arno.
Mae'r gwasanaethau cymorth canlynol hefyd ar gael i helpu pobl ifanc:
Gall Report Remove (Saesneg yn unig) helpu pobl ifanc o dan 18 oed yn y DU i ro gwybod yn gyfrinachol am ddelweddau a fideos rhywiol ohonyn nhw eu hunain ar-lein a'u dileu.
Gall Report Harmful Content (Saesneg yn unig) helpu drwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am safonau cymunedol a dolenni i gyfleusterau ar sawl platfform lle gellir rhoi gwybod am ddeunydd niweidiol.
Adnoddau i helpu dysgwyr i adnabod a deall effaith aflonyddu rhywiol ar-lein.
Yn helpu ymarferwyr addysg i ddeall y mater hwn, a chefnogi a diogelu dysgwyr.
Yn cefnogi datblygiad proffesiynol ac yn llywio polisïau ar ymateb i gam-drin ar-lein a diogelu plant a phobl ifanc.
Er mwyn eich helpu yn eich sgyrsiau ynghylch aflonyddu rhywiol ar-lein, siaradwch am:
ymddygiad iach a chydsyniad o fewn perthynas
beth mae ymddygiad iach a chydsyniad yn ei olygu mewn cyd-destun ar-lein
Mae plant a phobl ifanc yn dal i ddysgu am eu terfynau personol. Gall pwysau cyfoedion achosi iddyn nhw amau eu hunain a gwneud pethau na fydden nhw fel arfer yn gyfforddus â nhw.
Drwy siarad am gydberthnasau iach a'r math o ymddygiad sy'n dderbyniol neu nad yw'n dderbyniol, gallwch helpu'ch plentyn i ddatblygu'r hyder i:
ymddiried yn eu greddf
ymdrin â sefyllfaoedd ar-lein anodd
Trafodwch sut mae parch a diffyg parch mewn cyfeillgarwch neu berthynas yn mynegi ei hun. Er enghraifft, ni ddylai rhywun sy'n eich parchu roi pwysau arnoch i wneud rhywbeth nad ydych yn gyfforddus ag ef.
Esboniwch beth sy'n dderbyniol ac nad yw'n dderbyniol i'w rannu ar-lein a pham.
Awgrymwch rai ffyrdd o ddweud na neu o'u tynnu eu hunain allan o sefyllfa anghyfforddus.
Eglurwch:
y dylai cydsyniad fod yn rhywbeth gwirfoddol bob amser, heb bwysau na chymryd dim yn ganiataol
y gall rhywun dynnu ei gydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg
er mwyn cydsynio, bod angen i rywun ddeall sefyllfa yn llawn, gan gynnwys yr union sefyllfa mae ynddi ar y pryd
Peidiwch â beirniadu na gwylltio. Gadewch i'ch plentyn esbonio yn ei eiriau ei hun beth sydd wedi digwydd. Byddwch yn barod i'ch plentyn ddweud pethau wrthych a allai fod yn anodd eu clywed.
Dangoswch empathi a dealltwriaeth. Dangoswch i'ch plentyn eich bod yn ei gredu a'ch bod am wneud popeth o fewn eich gallu i'w gefnogi. Sicrhewch eich plentyn mai dweud wrthych chi oedd y peth iawn i'w wneud.
Gofynnwch gwestiynau penagored fel 'Beth ddigwyddodd?' neu 'Beth alla i ei wneud i helpu?' yn hytrach na chwestiynau sy'n awgrymu bai, er enghraifft 'Pam wnest ti hynny?'
Ceisiwch beidio â thynnu'r dechnoleg y mae eich plentyn yn ei charu oddi wrtho. Efallai y bydd hynny'n gwneud iddo deimlo'n fwy ynysig neu ei fod yn cael ei gosbi, ac nad yw'n gallu cysylltu â'i ffrindiau am gefnogaeth.
Cymerwch gamau i roi gwybod am ddeunydd niweidiol a'i ddileu (Saesneg yn unig).
Gall fod yn destun gofid neu'n anghyfforddus darganfod bod eich plentyn wedi bod yn rhan o aflonyddu rhywiol ar-lein neu'n gyfrifol amdano. Mae'n bwysig peidio â gwylltio, gwrando a rhoi amser iddo esbonio beth sydd wedi digwydd.
Os yw'ch plentyn yn ei chael yn anodd siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, awgrymwch opsiynau eraill, er enghraifft, gallai ysgrifennu'r peth yn lle hynny.
Sicrhewch eich plentyn eich bod yno i helpu. Bydd yn teimlo'n fregus a bydd angen eich help a'ch cefnogaeth.
Siaradwch â'ch plentyn ynghylch:
pam mae ei ymddygiad yn annerbyniol
y gwahaniaeth rhwng ymddygiad iach ac ymddygiad nad yw'n iach
Ceisiwch ddarganfod sut y digwyddodd a phwy oedd yn rhan o'r peth. Efallai y byddai'n ddefnyddiol siarad ag aelod o staff yn ysgol eich plentyn. Cadwch mewn cof y gallai fod angen i ysgolion gyfeirio unrhyw ddigwyddiadau sy'n ymwneud â lluniau noeth o blant dan 18 oed i'r heddlu. Os bydd hyn yn digwydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o hawliau eich plentyn. Ewch i Family Lives (Saesneg yn unig) a LawStuff (Saesneg yn unig) i ddarganfod mwy am hyn, ynghyd â gwefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig) i gael gwybodaeth am oedran cyfrifoldeb troseddol.
Os ydych yn darganfod bod eich plentyn wedi bod yn arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol a'ch bod yn poeni bod oedolion yn gysylltiedig, efallai bod eich plentyn:
wedi cael ei orfodi
wedi cael ei ecsbloetio
wedi cael ei fygwth
wedi bod yn darged i rywun sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol
Os ydych yn teimlo bod hyn yn wir, cysylltwch â Chanolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (Saesneg yn unig) am gymorth.
Gallech gysylltu â 'Gwasanaeth ymddygiad rhywiol niweidiol Taith' Barnardo's Better Futures Cymru (Saesneg yn unig). Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n arddangos ymddygiad rhywiol problemus neu niweidiol.