Mae rhannu lluniau noeth a hanner noeth (y cyfeirir ato weithiau fel 'secstio') yn cyfeirio at greu ac anfon:
delweddau
fideos
ffrwd fyw o rywun noeth neu hanner noeth
Mae gan lawer o bobl ifanc fynediad at ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a dyfeisiau cysylltiedig eraill. Gan ddefnyddio'r rhain, gallan nhw greu a rhannu delweddau neu fideos yn hawdd ar gyfryngau cymdeithasol neu apiau negeseuon preifat. Yn aml, nid yw pobl ifanc yn deall yn llawn risgiau neu ganlyniadau hirdymor rhannu delweddau.
Mae AI cynhyrchiol wedi cyfrannu at gynnydd mewn delweddau a fideos o noethni a gynhyrchir gan gyfrifiadur. Gellir creu'r rhain gan ddefnyddio adnoddau fel:
meddalwedd golygu lluniau neu fideos
dyfeisiau creu ffugiad dwfn
apiau ychwanegu noethni
dyfeisiau creu delwedd AI o destun
Efallai y bydd pobl ifanc yn rhannu delweddau:
ohonyn nhw eu hunain neu o eraill
o bobl y maen nhw mewn perthynas ramantus gyda nhw
o bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod
Gall fod llawer o wahanol gymhellion neu resymau y tu ôl i'r ymddygiad, rhai yn fwy niweidiol nag eraill.
Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Diogelu Plant 1978 yn ei gwneud yn drosedd cymryd, creu, dangos, meddu ar neu rannu delweddau anweddus o unrhyw un o dan 18 oed.
Gall hyn fod yn ddryslyd i blentyn neu berson ifanc. Os yw wedi cymryd delwedd noeth ohono'i hun a'i storio'n breifat ar ei ddyfais, mae hynny'n drosedd, hyd yn oed os mai dim ond y plentyn neu’r person ifanc ei hun sydd yn y ddelwedd.
Fodd bynnag, yn achos llawer o sefyllfaoedd sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn unig, mae'r heddlu bellach yn eu hystyried yn fater diogelu yn hytrach na mater troseddol. Nid yw gwneud plant a phobl ifanc sy'n cymryd ac yn rhannu lluniau noeth a hanner noeth ohonyn nhw eu hunain yn droseddwyr o fudd i'r cyhoedd. Nid yw chwaith o fudd i'r unigolion dan sylw.
Gall hyn greu sefyllfaoedd cymhleth i oedolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Os dewch ar draws achos o rannu lluniau noeth neu hanner noeth, dylech:
weithredu'n ofalus i sicrhau nad ydych yn gwneud unrhyw beth y gellid ei ystyried yn drosedd mewn perthynas â delweddau anweddus o blant
sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n meddu ar ddelweddau ohono'i hun neu o eraill o dan 18 oed yn cael ei gefnogi a'i ddiogelu
Bydd digwyddiadau sy'n ymwneud ag unigolion o dan 18 oed yn unig yn cael eu hystyried fesul achos. Bydd rhai yn cael eu trin fel mater diogelu, a rhai fel mater troseddol.
Sicrhewch fod plant a phobl ifanc:
yn cael cyfleoedd i ddysgu a holi cwestiynau am risgiau creu a rhannu lluniau noeth a hanner noeth
yn deall y gweithdrefnau diogelu yn eich ysgol
yn gwybod â phwy y gallan nhw siarad
yn gwybod y bydd unrhyw beth y maen nhw’n ei ddatgelu yn cael ei drin yn gyfrinachol ac â pharch
Bydd hyn yn rhoi mwy o hyder iddyn nhw i ddatgelu pryderon neu ddigwyddiadau.
Gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol i helpu i addysgu plant a phobl ifanc am y mater hwn.
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am rannu lluniau noeth a hanner noeth.
Canllawiau i swyddogion diogelu dynodedig, penaethiaid ac uwch dimau arwain ar sut i ymateb i achos o rannu lluniau noeth neu hanner noeth.
Modiwl hyfforddi i gefnogi swyddogion diogelu dynodedig ac uwch reolwyr mewn lleoliadau addysg i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu lluniau noeth neu hanner noeth.
Yn helpu ysgolion i ddeall y canllawiau diweddaraf, y pryderon presennol ynghylch rhannu delweddau, a ble y gallan nhw gael cyngor neu roi gwybod am achosion yn gyfrinachol.