Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o gyrsiau eraill ar gyfer ymarferwyr addysg. Mae cyrsiau ar gael ar bob lefel o’r Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg trwy ystod o fodelau darparu.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau ar wefan y Ganolfan: Cymraeg Gweithlu Addysg.

Cyrsiau ar-lein

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu cyrsiau ar-lein i arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr.

Mae'r cyrsiau mynediad hyn ar gael yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau staff cyflenwi i ymarferwyr sy'n gwneud y cyrsiau hyn. Felly bydd angen i ysgolion drafod ag ymarferwyr sut y byddant yn rheoli llwythi gwaith er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn y cyrsiau.

Mae dau gwrs 10 awr o hyd, am ddim, sy'n cyflwyno geirfa ac ymadroddion perthnasol. Mae un cwrs wedi'i deilwra ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a'r llall ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, er mwyn eu galluogi i ddefnyddio ymadroddion sylfaenol yn ystod y diwrnod ysgol.

Mae hefyd gwrs lefel mynediad 120 awr o hyd a ddatblygwyd at ddefnydd athrawon mewn ysgolion cynradd neu uwchradd cyfrwng Saesneg yn benodol. Bydd y Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr cyrsiau'r Cynllun Sabothol i ddarparu cymorth gan diwtoriaid ar gyfer y cwrs hwn, ac yn defnyddio eu harbenigedd i sicrhau bod y dysgu yn cael ei integreiddio mewn modd cyson a chywir wrth i ddysgwyr fanteisio ar y gwahanol gynlluniau dysgu Cymraeg sydd ar gael iddynt.

Gall y cwrs hunanastudio hwn gynnig ffordd ymlaen i'r athrawon hynny sydd am ymgymryd â chwrs Lefel Sylfaen y Cynllun Sabothol yn nes ymlaen.

Manylion

  • Cwrs Hunanastudio Lefel Mynediad i Athrawon: ar gael ar-lein (120 awr).

  • Yn addas ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg.

  • Cyfle i ddysgu patrymau iaith sy'n addas i'w defnyddio gyda dysgwyr yn yr ysgol.

  • Dwy awr o waith hunanastudio ar-lein yr wythnos.

  • Sesiwn fyw ar-lein awr o hyd i ymarfer a dysgu am fethodolegau dysgu iaith.

  • Magu hyder i addysgu'r Gymraeg gan ddefnyddio dull trawsgwricwlaidd.

  • Bydd cymorth tiwtoriaid ar gael drwy gydol y cwrs.