Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae gan y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg rôl ganolog i'w chwarae wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Cynllun yn darparu methodoleg a hyfforddiant Cymraeg i athrawon a chynorthwywyr dosbarth ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Mae'r Cynllun yn rhoi cyfle i ymarferwyr wneud y canlynol:

  • gwella eu sgiliau Cymraeg

  • dysgu terminoleg penodol i bynciau

  • sicrhau bod ganddynt yr ymwybyddiaeth a'r hyder i ddefnyddio methodolegau cyfrwng Cymraeg a rhai dwyieithog

Mae'r Cynllun ar agor i ymarferwyr sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae cyrsiau ar gael ar sawl lefel. Mae'n bosibl y caiff ceisiadau gan staff cyflenwi eu hystyried yn dibynnu ar amodau penodol.

Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn talu grant tuag at gostau staff cyflenwi ac yn ad-dalu unrhyw gostau teithio ychwanegol y bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn mynd iddynt. Mae'r cynllun yn cynnig y cyrsiau canlynol ar hyn o bryd:

‘Cymraeg Mewn Blwyddyn’

Cafodd y cwrs hwn ei gynllunio ar gyfer athrawon ysgol gynradd sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Mae'n darparu hyfforddiant dros gyfnod o flwyddyn academaidd gyfan, gan arwain at siaradwyr sy'n mynegi eu hunain yn rhugl ac yn ramadegol gywir yng nghyd-destun dysgu ac addysgu. Ei nod yw datblygu arweinwyr pwnc a fydd yn cynllunio'r defnydd o'r Gymraeg yn eu hysgolion yn unol â gofynion strategol y consortiwm rhanbarthol gan ddefnyddio methodolegau addysgu'r Gymraeg a gydnabyddir yn arferion gorau yn broffesiynol.

Mae'r cwrs yn meithrin sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i siarad yr iaith a'i hysgrifennu yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd wrth ddarparu addysg Cymraeg ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau iaith ymarferwyr i sicrhau y byddant yn gallu datblygu'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i haddysgu yn eu hysgolion. Mae'n edrych yn benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a rhoi cyfle i ymarferwyr weithio'n strategol i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu hysgolion. Caiff ymarferwyr gyfle i baratoi adnoddau a chyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd yn unol â meysydd dysgu'r cwricwlwm newydd yn ogystal â meithrin sgiliau i'w galluogi i asesu disgyblion a rhoi adborth ar iaith iddynt.

Lefel uwch

Mae cyrsiau lefel uwch wedi'u hanelu at bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, naill ai'n siaradwyr iaith gyntaf neu'n ddysgwyr rhugl, ond nad ydynt yn meddu ar yr hyder na'r derminoleg arbenigol yn Gymraeg i ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn cyd-destun proffesiynol.

Mae'r cyrsiau yn cynnig i ymgeiswyr y cyfle i wneud y canlynol:

  • meithrin eu sgiliau iaith personol

  • cael hyfforddiant iaith dwys ar y cyd â hyfforddiant ar fethodolegau ym maes addysgu cyfrwng Cymraeg neu addysgu iaith

  • datblygu gwybodaeth arbenigol am derminoleg sy'n benodol i'w maes pwnc neu eu harbenigedd

Lefel canolraddol

Y cwrs wyth wythnos hwn yw'r cwrs diweddaraf i gael ei ychwanegu at ddarpariaeth y Cynllun Sabothol.

Mae wedi'i anelu at athrawon mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg/dwyieithog sy'n meddu ar rywfaint o sgiliau Cymraeg, er enghraifft pobl sydd eisoes wedi cwblhau cwrs sylfaen, naill ai drwy'r Cynllun Sabothol neu drwy ddulliau eraill, ac sy'n awyddus i feithrin eu sgiliau ymhellach er mwyn gwneud cynnydd tuag at fod yn rhugl.

Bydd y cwrs hwn yn gwneud y canlynol:

  • creu athrawon medrus er mwyn paratoi ar gyfer gofynion y Cwricwlwm newydd i Gymru yn y sector cyfrwng Saesneg

  • camu ymlaen o'r cwrs sylfaen, gan atgyfnerthu ac estyn gallu ieithyddol athrawon yn ogystal â'u sgiliau addysgegol

  • galluogi athrawon i gynllunio'r gwaith o ddarparu'r elfen Gymraeg sy'n rhan o fframwaith Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm newydd

Mae'r cwrs hwn yn meithrin sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i siarad yr iaith a'i hysgrifennu yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd wrth gyflwyno Cymraeg ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • meithrin sgiliau iaith ymarferwyr er mwyn eu galluogi i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg a dysgu Cymraeg yn eu hysgolion

  • y defnydd o'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm, gan roi cyfle i ymarferwyr weithio'n strategol i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu hysgolion

  • helpu ymarferwyr i baratoi adnoddau a darparu gwersi trawsgwricwlaidd yn unol â Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru

  • meithrin sgiliau ymarferwyr i'w galluogi i asesu disgyblion a darparu adborth ystyrlon

Lefel sylfaen

Hyfforddiant iaith Gymraeg i athrawon y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog sydd am wneud y canlynol:

  • meithrin eu sgiliau Cymraeg i lefel sylfaen

  • cymryd y camau cyntaf ar lwybr cydnabyddedig tuag at ddysgu Cymraeg gyda'r nod hirdymor o addysgu'r Gymraeg

  • cyfrannu at ddwyieithrwydd yn eu hysgolion a datblygu ethos iaith Gymraeg

Mae'r cwrs wedi'i anelu at bobl sy'n meddu ar wybodaeth sylfaenol am y Gymraeg ac sy'n awyddus i ymrwymo i gwblhau 11 wythnos o hyfforddiant dwys.

Lefel mynediad

Cwrs trochi dwys llawn amser sy'n para am bum wythnos yw hwn ar gyfer cynorthwywyr ystafell ddosbarth sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog.

Bydd y cwrs yn rhoi i bawb sy'n cymryd rhan yr eirfa a'r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu cydweithwyr addysgu yn y gwaith o ddarparu'r cwricwlwm.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Arweinydd y Gymraeg mewn Addysg neu ddarparwyr y cyrsiau drwy’r dolenni isod:

Gogledd Cymru (GWE): SgiliauIaithGymraeg@gwegogledd.cymru

De-orllewin a Chanolbarth Cymru: Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant

Canolbarth y De (CSCJES): Emma.Dermody@cscjes.org.uk

Gwasanaeth Gwella Ysgolion ALl: Sioned.Harold@sewaleseas.org.uk

Fel arall, cysylltwch â Thîm y Cynllun Sabothol am fwy o wybodaeth:

Ffôn: 03000 259770

E-bost: cynllunsabothol@llyw.cymru

Fideos yn rhoi gwybodaeth am y cynllun a phrofiadau o gyfranogwyr

(Fideo Saesneg yn unig yw'r fideo nesaf.)