Nod rhaglen newydd CPCP Cymru yw cefnogi ac arwain unigolion er mwyn eu paratoi i gymryd y cam tuag at fod yn bennaeth. Bydd yr unigolion yn cael eu cefnogi drwy gyfres o weithdai ac ymweliadau, a thrwy ryngweithio gyda'u Hyfforddwr Arweinyddiaeth i lywio eu gweledigaeth strategol ar gyfer arweinyddiaeth. Mae'r tair elfen breswyl yn rhannau hanfodol o'r rhaglen, gan roi amser ar gyfer dysgu estynedig. Bydd y rhaglen yn ymdrin ag ymarfer a damcaniaeth. Bydd hyn yn cael ei ategu gan fodiwlau y bydd unigolion yn gallu eu dewis yn seiliedig ar eu hanghenion datblygu penodol eu hunain.
Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o amgylch prosiect datblygu penaethiaid a fydd â gwerth ymarferol yn ysgolion yr unigolion eu hunain.
Dechreuodd carfan gyntaf y rhaglen ym mis Ionawr 2025. Dechreuodd carfan 2 ym mis Medi 2025.
Bydd Carfan 2026 yn dechrau ym mis Medi 2026. Bydd 90 o gyfranogwyr yn rhan o'r garfan hon.
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal dros 18 mis.
Bydd pob unigolyn yn cael hunanasesiad 360 ar ddechrau'r rhaglen a fydd yn helpu i nodi meysydd penodol i'w datblygu yn ystod y rhaglen.
Bydd pob unigolyn yn cael ei gefnogi gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth dynodedig drwy gydol y rhaglen. Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu mewn ymateb i'r hunanasesiad 360 ac i hyfforddi unigolion eraill drwy'r rhaglen.
Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Arweinyddiaeth yn Dysgu, a fydd yn sicrhau bod ansawdd pob agwedd o’r safon uchaf a bod y rhaglen yn diwallu anghenion pob unigolyn ac ysgolion y genedl.
Bydd cyfranogwyr yn derbyn statws CPCP Cymru ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.