Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr.

Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil ac ymholi uwch

  • anghenion dysgu ychwanegol, rhagoriaeth mewn ymarfer

  • cynllunio a gwireddu'r cwricwlwm

  • arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Gall ymgeiswyr astudio’r MA Addysg (Cymru) gyffredinol neu ddewis dilyn llwybr arbenigol penodol:

  • MA Addysg Genedlaethol (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

  • MA Addysg Genedlaethol (Cymru): Arweinyddiaeth

  • MA Addysg Genedlaethol (Cymru): Cwricwlwm

  • MA Addysg Genedlaethol (Cymru): Tegwch mewn Addysg

Mae’r MA yn rhaglen ran-amser dros 3 blynedd. Fodd bynnag, gall myfyrwyr sy’n gallu dangos dysgu blaenorol perthnasol gael mynediad i’r rhaglen ym Mlwyddyn 2 a chwblhau’r cymhwyster dros 2 flynedd.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy DYSGU, yn darparu cyllid i dalu costau’r ffioedd ar gyfer pob myfyriwr cymwys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y MA Addysg Genedlaethol (Cymru).

Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â’r sefydliad o’u dewis drwy’r tudalennau cwrs isod.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Iau, 29 Hydref 2026