Gallwch gael mynediad o hyd at eich Rhwydweithiau blaenorol ar Hwb drwy archif Hwb.
Gweld pob Rhwydwaith sydd yn yr archif: Gweld pob rhwydwaith Hwb
Gweld eich rhwydweithiau: Gweld pob rhwydwaith sy’n gysylltiedig â'ch cyfrif
Rhaid ichi fod yn Berchennog Rhwydwaith neu’n Rheolwr Rhwydwaith er mwyn gweld a lawrlwytho ffeiliau o Rwydwaith yn yr archif. Os nad ydych chi’n Berchennog neu’n Rheolwr, ni fydd modd ichi gael mynediad at y ffeiliau yn y Rhwydwaith hwnnw ac ni fydd modd ichi lawrlwytho’r ffeiliau ychwaith.
Bydd Rhwydweithiau yn cael eu tynnu o archif Hwb ar 30 Tachwedd. Os oes angen ichi gadw unrhyw ffeiliau neu wybodaeth o Rwydwaith, dylech fynd ato a lawrlwytho popeth sydd ei angen arnoch cyn y dyddiad hwnnw.
Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar eich Rhwydweithiau cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod wedi cadw unrhyw gynnwys rydych am ei gadw.
Perchnogion rhwydwaith sy'n gyfrifol am reoli'r broses o symud cynnwys ac aelodau i'w hofferyn newydd.
Bydd tri datrysiad amgen ar gael trwy Hwb:
Microsoft Teams
Google Classroom
Yr offeryn rhwydwaith newydd sydd ar gael ar Hwb sy'n cefnogi trafodaethau a’r gallu i rannu ffeiliau yn uniongyrchol o OneDrive a Google Drive