Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae Speaker Progress yn rhan o Microsoft Teams for Education. Mae'n helpu dysgwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau cyflwyno.

Gall ymarferwyr wneud y canlynol:

  • creu aseiniadau siarad neu gyflwyno

  • dewis pa adborth i’w roi i ddysgwyr

  • mesur cynnydd dysgwyr dros amser

Sut i gael mynediad at Speaker Progress yn Hwb

Gallwch ddefnyddio Speaker Progress trwy Microsoft Teams Classes:

  1. Dewiswch Assignments o'r ddewislen ar y chwith.

  2. Gwasgwch Create a dewiswch Speaker Progress o'r ddewislen Learning Accelerators.

Gosodiadau iaith

Mae Speaker Progress ar gael yn Saesneg a sawl iaith arall. Nid yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Sut all Speaker Progress gefnogi ysgolion

Ddysgwyr

  • Mae’n cynnig cyfleoedd i ymarfer ac i fireinio cyflwyniadau yn annibynnol.

  • Mae’n rhoi adborth tra bydd y dysgwr yn cyflwyno ac ar ôl iddyn nhw orffen, gan gynnwys adroddiad ymarfer dewisol. Mae'r offeryn Speaker Coach yn cynnig adborth ar sawl maes, gan gynnwys iaith y corff, geiriau gwag, cyflymder, goslef ac iaith ailadroddus.

Am ragor o wybodaeth, gweler canllaw Microsoft Support i ddysgwyr.

Ymarferwyr

  • Gall greu cyfleoedd ar gyfer ymarfer annibynnol sy'n gysylltiedig â gwaith dosbarth.

  • Gallwch ddewis pa feysydd adborth i’w rhoi i’r dysgwr, megis iaith y corff, geiriau gwag, cyflymder, goslef ac iaith ailadroddus.

  • Mesur cynnydd dysgwyr dros amser

Am ragor o wybodaeth, gweler canllaw Microsoft ar gyfer addysgwyr.

Defnydd Speaker Progress o AI

  • Mae Speaker Progress yn defnyddio AI Cynhyrchiol i werthuso agweddau gan gynnwys iaith y corff, geiriau gwag, cyflymder, goslef ac iaith ailadroddus.

  • Mae Speaker Progress yn cynnig hyfforddiant ac adborth amser real wedi'i bweru gan AI.

Y prif ystyriaethau ar gyfer ysgolion

  • Sicrhewch fod y defnydd o Speaker Progress yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.

Sicrwydd data


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026