Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae Speaker Coach yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu. Mae'n darparu hyfforddiant amser real ac adborth wedi'i deilwra.

Mae Speaker Coach ar gael yn PowerPoint a gall gael ei ddefnyddio mewn aseiniadau Speaker Progress yn Microsoft Teams Classes.

Sut i gael mynediad at Speaker Coach yn Hwb

Mae Speaker Coach yn rhan o PowerPoint yn Microsoft 365. Dewiswch un o'r opsiynau canlynol i'w ddefnyddio:

  • Mewngofnodwch i wefan Hwb a gwasgwch ar Powerpoint ar ddangosfwrdd Hwb.

  • Ewch i wefan Microsoft 365 a mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch manylion Hwb.

Ar ôl agor cyflwyniad, dewiswch Rehearse with Coach naill ai o'r opsiynau Slide Show neu Present ar y brig.

Gosodiadau iaith

Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg y mae Speaker Coach ar gael.

Sut all Speaker Coach gefnogi ysgolion

Dysgwyr

  • Cyfle i ymarfer sgiliau siarad yn annibynnol.

  • Ar ôl ymarfer, mae Speaker Coach yn darparu adroddiad gydag adborth ac awgrymiadau ar sut i wella agweddau ar y cyflwyniad, gan gynnwys:

    • cyflymder

    • goslef

    • geiriau gwag

    • ynganiad

    • gwreiddioldeb

    • cynhwysiant

    • ailadrodd

    • iaith y corff

  • Gall defnyddwyr ddewis cael adborth amser real neu ddim.

Ymarferwyr

  • Gall ymarferwyr, fel y dysgwyr, ddefnyddio Speaker Coach i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno hefyd.

  • Gall gefnogi llafaredd ar draws y cwricwlwm trwy alluogi ymarfer strwythuredig cyn cyflwyniadau, gwasanaeth bore a thasgau siarad cyhoeddus eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin sgiliau a hyder.

Defnydd Speaker Coach o AI

Mae Speaker Coach yn trawsgrifio iaith lafar i greu testun ac yna'n dadansoddi'r testun gan ddefnyddio AI, gan gynhyrchu'r adroddiad adborth amser real ac ar ôl ymarfer.

Y prif ystyriaethau ar gyfer ysgolion

  • Sicrhewch fod y defnydd o Speaker Coach yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.

  • Defnyddiwch Speaker Coach mewn lleoliad tawel i gael y canlyniadau gorau.

  • Mae adroddiadau ymarfer yn diflannu unwaith y byddwch yn eu cau.

Sicrwydd data

  • Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen Asesiad DPIA newydd.

  • Mae adroddiadau ymarfer yn breifat i'r unigolyn ac nid oes modd i neb arall eu gweld.

  • Nid yw'r sain a recordiwyd na’r adroddiadau ymarfer yn cael eu storio gan Microsoft ac nid ydynt yn hygyrch ar ôl i sesiwn recordio'r siaradwr ddod i ben ac ar ôl cau’r adroddiad ymarfer.

I gael yr holl wybodaeth am brosesu data, ewch i:


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026