Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae Search Progress yn offeryn rhad ac am ddim yn Microsoft Teams sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymchwilio a llythrennedd gwybodaeth. Mae'n adeiladu ar Search Coach ac yn caniatáu i ymarferwyr wneud y canlynol:

  • creu aseiniadau ymchwil strwythuredig

  • adolygu'r prosesau y mae dysgwyr wedi’u defnyddio i ganfod a dethol ffynonellau ac i fyfyrio arnyn nhw

Yn wahanol i Search Coach, sy’n offeryn ymarfer ac adeiladu sgiliau yn bennaf, mae Search Progress wedi'i greu ar gyfer gwneud gwaith sydd wedi ei neilltuo yn Microsoft Teams. Mae'n helpu ymarferwyr i ddeall meddyliau dysgwyr pan fyddan nhw’n gwneud gwaith ymchwil, gan gynnwys:

  • pa chwiliadau a wnaeth y dysgwr

  • pa hidlyddion a ddefnyddiwyd

  • pa ffynonellau a gadwyd

  • pa eglurhad a roddwyd gan ddysgwyr

Dyma ddull sy’n debyg i’r arfer o ddangos eich gwaith mewn mathemateg.

Sut i ddefnyddio Search Progress yn Hwb

Gallwch ddefnyddio Search Progress trwy Microsoft Teams Assignments yn Hwb.

I greu aseiniad Search Progress:

  1. Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar Teams ar ddangosfwrdd Hwb neu agorwch yr ap Microsoft Teams.

  2. Agorwch y Dosbarth Teams perthnasol.

  3. Ewch i Assignments.

  4. Gwasgwch Create.

  5. Gwasgwch New assignment, yna Learning Accelerators, yna Search Progress.

Gosodiadau iaith

Gallwch ddefnyddio Microsoft Search Progress i chwilio mewn unrhyw iaith, gan gynnwys Cymraeg. Os mai Cymraeg yw eich iaith ddiofyn yn Microsoft 365, bydd cynnwys Teams a Search Progress yn Gymraeg.

Sut all Search Progress gefnogi ysgolion

Dysgwyr

Mae Search Progress yn strwythuro'r broses ymchwil drwy gefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • chwilio gyda bwriad clir

  • arbed ffynonellau perthnasol

  • egluro pam y dewiswyd ffynonellau

  • gwerthuso enw da, pwrpas a phwysigrwydd ffeithiol y ffynhonnell

  • croeswirio gwybodaeth

Ymarferwyr

Mae Search Progress yn galluogi ymarferwyr i weld arferion ymchwilio dysgwyr. Gall gefnogi dysgwyr i feddwl yn feirniadol ac i ddysgu am gamwybodaeth a diogelwch ar-lein.

Gall ymarferwyr roi adborth ysgrifenedig, rhifiadol neu fideo i ddysgwyr.

Er mwyn nodi'r camau dysgu nesaf, gall ymarferwyr edrych ar y canlynol:

  • pa chwiliadau a gwblhawyd gan y dysgwr

  • pa hidlyddion a ddefnyddiwyd

  • pa ffynonellau a gadwyd

  • pa eglurhad a roddwyd gan y dysgwr

  • myfyrdodau cyffredinol

  • patrymau a thueddiadau dosbarth

Defnydd Search Progress o Ddealltwriaeth Artiffisial (AI)

Mae Microsoft Search Progress wedi'i gynllunio i gefnogi llythrennedd gwybodaeth a sgiliau ymchwilio.

Nid yw dogfennaeth Microsoft yn dweud bod Search Progress yn defnyddio deallusrwydd artiffisial neu AI cynhyrchiol. Yn hytrach, mae'n tywys dysgwyr trwy’r broses o ymchwilio, gwerthuso a myfyrio ar ffynonellau gwybodaeth.

Y prif ystyriaethau ar gyfer ysgolion

  • Sicrhewch fod y defnydd o Search Progress yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.

  • Mae canlyniadau chwilio yn newid yn aml, felly gall techneg lwyddo un wythnos a chynhyrchu canlyniadau cwbl wahanol wythnos yn ddiweddarach. Gwiriwch ganlyniadau chwilio cyn gwersi lle bo'n bosibl ac atgoffwch ddysgwyr y gall canlyniadau chwilio newid.

Sicrwydd data

  • Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen Asesiad DPIA newydd.

  • Mae Search Progress yn cofnodi elfennau o waith ymchwil dysgwyr ar gyfer yr aseiniad, gan gynnwys chwiliadau, hidlwyr, ffynonellau a gadwyd, ac esboniadau gan y dysgwr.

  • Gall ymarferwyr sy'n adolygu aseiniadau Search Progress weld ystadegau lefel uchaf, myfyrdodau dysgwyr, pa chwiliadau a wnaed, pa hidlwyr a ddefnyddiwyd, a pha ffynonellau a gadwyd, ynghyd ag esboniadau.

  • Caiff data ei brosesu o fewn gwasanaeth Microsoft 365 Education a’i ddiogelu gan reolaethau diogelwch, preifatrwydd a chydymffurfiaeth menter. Mae Microsoft yn gweithredu fel prosesydd data o dan Atodiad Diogelu Data Cynhyrchion a Gwasanaethau Microsoft, tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer ei defnydd o Search Progress.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026