Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae Search Coach yn un o adnoddau cyflymu dysgu Microsoft Learning Accelerator sydd ar gael yn Microsoft Teams Classes. Mae'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth mewn amgylchedd chwilio ar y rhyngrwyd sy’n ddiogel a heb hysbysebion.

Gall dysgwyr ddefnyddio Search Coach i ymarfer sut i wneud y canlynol:

  • chwilio'n effeithiol

  • mireinio ymholiadau chwilio

  • defnyddio hidlyddion chwilio

  • gwerthuso ffynonellau ar-lein

Ewch i Microsoft Learn i ddysgu mwy am Search Coach.

Sut i gael mynediad at Search Coach yn Hwb

Mae Search Coach ar gael trwy Microsoft Teams Classes gan ddefnyddio cyfrif Hwb Microsoft 365.

I ychwanegu Search Coach at Dîm dosbarth:

  1. Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar ap Teams ar ddangosfwrdd Hwb neu agorwch yr ap Microsoft Teams.

  2. Agorwch y Dosbarth Teams perthnasol.

  3. Yn y sianel gyffredinol, dewiswch + i ychwanegu tab.

  4. Chwiliwch am Search Coach.

  5. Gwasgwch Add, ac yna Save.

Gallwch gael rhagor o gymorth i ddechrau defnyddio Search Coach ar wefan Cymorth Microsoft.

Gosodiadau iaith

Gallwch ddefnyddio Search Coach i chwilio mewn unrhyw iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Os mai Cymraeg yw eich iaith ddiofyn yn Microsoft 365, bydd cynnwys Teams a Search Coach yn Gymraeg.

Sut all Search Coach gefnogi ysgolion

Dysgwyr

Meithrin sgiliau ar gyfer chwilio am ffynonellau ar y we a’u gwerthuso’n effeithiol, gan gynnwys:

  • creu a mireinio ymholiadau chwilio

  • adnabod gwahanol fathau o ffynonellau a defnyddio hidlwyr, er enghraifft parth, math o ffeil ac ystod dyddiad

  • defnyddio gweithredwyr chwilio i wneud chwiliadau yn fwy manwl gywir. Er enghraifft, gan gynnwys dyfynodau, AND, OR a NOT i gulhau neu ehangu chwiliad

  • cymharu gwybodaeth ac ystyried pa mor ddibynadwy a pherthnasol yw hi a beth yw ei phwrpas

Ymarferwyr

Gall ymarferwyr ddefnyddio Search Coach i gefnogi'r broses o addysgu sgiliau ymchwil trwy wneud y canlynol:

  • dangos sut i droi pwnc eang yn gwestiwn chwiliad manwl

  • dangos sut mae gwahanol dermau chwilio yn effeithio ar y canlyniadau

  • defnyddio gweithredwyr chwilio, gan gynnwys dyfynodau, AND, OR a NOT i wneud chwiliadau'n fwy manwl gywir a gwneud canlyniadau chwilio yn fwy perthnasol

  • ystyried dibynadwyedd ffynonellau a rhagfarn ffynonellau

  • nodi mathau o barthau, er enghraifft .gov, .org, .edu neu .com

Defnydd Search Coach o Ddealltwriaeth Artiffisial (AI)

Nid yw Search Coach yn offeryn AI cynhyrchiol. Mae'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth trwy fireinio ymholiadau chwilio, defnyddio gweithredwyr chwilio a gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau yn hytrach na chynhyrchu cynnwys neu atebion.

Y prif ystyriaethau ar gyfer ysgolion

  • Sicrhewch fod y defnydd o Search Coach yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.

  • Mae canlyniadau chwilio yn newid yn aml, felly gall techneg lwyddo un wythnos a chynhyrchu canlyniadau cwbl wahanol wythnos yn ddiweddarach. Rhowch gynnig ar eich gwers ymlaen llaw i sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu eich disgwyliadau.

Sicrwydd data

  • Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen Asesiad DPIA newydd.

  • Pan fydd dysgwr yn chwilio o fewn Search Coach, bydd y chwiliadau’n cael eu prosesu i ddarparu ymarferoldeb chwilio, canllawiau chwilio a gwybodaeth i addysgwyr. Ni ddylai dysgwyr gynnwys data personol, sensitif, cyfrinachol neu gategori arbennig mewn ymholiadau chwilio.

  • Caiff data ei brosesu o fewn gwasanaeth Microsoft 365 Education a’i ddiogelu gan reolaethau diogelwch menter, preifatrwydd a chydymffurfiaeth. Mae Microsoft yn gweithredu fel prosesydd data o dan Atodiad Diogelu Data Cynhyrchion a Gwasanaethau Microsoft, tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer ei defnydd o Search Coach.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026