Mae Reading Progress yn offeryn o fewn Microsoft Teams a all helpu dysgwyr i ddarllen yn rhugl ac yn hyderus. Bydd ymarferwyr yn creu tasgau darllen sy'n caniatáu i ddysgwyr recordio eu hunain yn darllen yn uchel.
Dysgwch sut i ddechrau defnyddio Reading Progress yn Teams neu ewch i Microsoft Learn i gael rhagor o adnoddau hyfforddi.
Agorwch Microsoft Teams trwy'r app ar y bwrdd gwaith neu drwy Microsoft 365
Ewch i'r tab Assignments
Cliciwch ar Create
Rhowch y cyrchwr dros Learning Accelerators
Dewiswch Reading Progress
Mae Reading Progress ar gael yn Saesneg ac amrywiaeth o ieithoedd eraill. Nid yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.
Mae’r holl destunau darllen yn ymddangos yn awtomatig yn Immersive Reader. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr addasu'r ffont, maint y testun, lliw y cefndir a'r bylchau.
Mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer hunan-asesu. Gall dysgwyr wylio neu wrando ar eu recordiadau ac ystyried eu rhuglder, eu cywirdeb a'u mynegiant wrth ddarllen.
Mae’n hyrwyddo annibyniaeth trwy ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr weithredu ar adborth uniongyrchol ac ymarfer geiriau maen nhw'n eu gweld yn heriol.
Gall ymarferwyr lanlwytho testunau i'w darllen, dewis testunau o'r llyfrgell sydd wedi'i hymgorffori, neu gynhyrchu testun gan ddefnyddio AI. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i greu deunyddiau darllen personol a gwahanol.
Mae’n helpu gydag asesiadau ac adborth trwy ddarparu sylwadau ynghylch rhuglder darllen i fonitro cywirdeb, cyflymder a chynnydd dros amser. Mae'n caniatáu iddynt nodi meysydd lle gallai fod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr.
Mae Reading Progress yn defnyddio AI i:
amcangyfrif gwallau darllen posibl mewn recordiadau gan ddysgwyr
creu cwestiynau dealltwriaeth i gyd-fynd ag aseiniadau Reading Progress
Bydd ymarferwyr yn cadw rheolaeth o hyd ac yn gallu adolygu, golygu, dileu neu ychwanegu gwallau cyn rhoi adborth.
Sicrhau bod y defnydd o Reading Progress yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol, fel
diogelu
iaith, llythrennedd a chyfathrebu
llythrennedd digidol
diogelwch ar-lein
defnydd derbyniol
diogelu data
Mae lefelau Reading Progress yn seiliedig ar y Fframwaith Lexile ar gyfer Darllen.
Efallai na fydd bob amser yn adnabod acenion a thafodieithoedd yn gywir. Rhaid sicrhau bod ymarferwyr yn adolygu ei ddefnydd.
Mae Education Insights yn casglu data gan gynnwys:
cyfradd cywirdeb y dysgwyr
geiriau mwyaf heriol
geiriau fesul munud
data mynegiant o Reading Progress
Mae adroddiadau Reading Progress ar gael i berchnogion dosbarthiadau trwy Education Insights yn unig.
Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data cyfredol neu a oes angen un newydd.
Mae data yn cael eu prosesu o fewn gwasanaeth Microsoft 365 Education ac wedi'u diogelu gan reolaethau diogelwch, preifatrwydd a chydymffurfiaeth Enterprise. Mae Microsoft yn gweithredu fel prosesydd data o dan amodau Microsoft Products and Services Data Protection Addendum, tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer ei defnydd o Reading Progress.