Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Mae Reading Coach yn cynnig ymarferion darllen personol, annibynnol i ddysgwyr.

Mae dysgwyr yn defnyddio dyfais i recordio eu hunain yn darllen ac yn cael adborth mewn amser real. Gall ymarferwyr fonitro eu cynnydd darllen.

Mae rhyngwyneb y system ar ffurf gêm gan annog dysgwyr i ddarllen yn gyson er mwyn ennill gwobrau.

Sut i gael mynediad at Reading Coach yn Hwb

Gallwch ddewis un o'r opsiynau hyn i gael mynediad at Reading Coach:

  1. Ewch i wefan Reading Coach, cliciwch dechrau arni, dewiswch mewngofnodi gyda chyfrif ysgol a defnyddiwch eich manylion cyfrif Hwb.

  2. Defnyddiwch yr ap Reading Coach ar gyfer Windows.

Gosodiadau iaith

  • Mae gwefan Reading Coach ar gael yn Gymraeg yn ogystal ag 80 o ieithoedd eraill.

  • Dim ond yn Saesneg a Sbaeneg y mae llyfrgell e-lyfrau Reading Coach ar gael.

  • Gallwch lwytho testunau sy’n bodoli’n barod i Reading Coach a'u darllen mewn sawl iaith, ond nid yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Sut all Reading Coach gefnogi ysgolion

Dysgwyr

  • Mae’n cynnig ymarferion darllen annibynnol a gwybodaeth, gan gynnwys cyflymder darllen, cywirdeb ac awgrymiadau o ran geiriau i’w hymarfer.

  • Mae'r holl destunau darllen yn ymddangos yn Immersive Reader yn awtomatig. Dyma ryngwyneb y gallwch ei addasu a’i bersonoli i wneud darllen yn fwy hygyrch.

  • Gall dysgwyr naill ai greu stori AI, dewis e-lyfr o'r llyfrgell neu gopïo a gludo eu testun eu hunain i'w ddarllen.

  • Gall dysgwyr ennill cymeriadau newydd a gwobrau am dreulio amser yn darllen a chwblhau cyflawniadau darllen. Gall hyn eu hysgogi i ddarllen yn rheolaidd.

Ymarferwyr

  • Gallwch wahaniaethu arferion darllen trwy neilltuo testunau penodol i unigolion neu grwpiau o ddysgwyr.

  • Gallwch gadw llygad ar ymarfer darllen a chynnydd dysgwyr, gan gynnwys eu hamser darllen, sesiynau ymarfer a gwblhawyd, geiriau cywir fesul munud a chywirdeb.

  • Gall dysgwyr ddefnyddio Reading Coach yn yr ysgol ac yn y cartref.

Defnydd Reading Coach o AI

  • Gall dysgwyr gynhyrchu straeon sy'n defnyddio AI i greu cymeriadau a naratifau. Mae cynnwys y stori yn cael ei gymedroli i reoli ansawdd, diogelwch a phriodoldeb oedran gan ddilyn canllawiau AI Cyfrifol Microsoft. Mae tudalen Reading Coach Microsoft yn trafod hyn mewn mwy o fanylder.

  • Dylech gofio y gall cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan AI mewn unrhyw offeryn neu wasanaeth gynnwys rhagfarn, neu gall dangynrychioli hunaniaethau, crefyddau, diwylliannau neu safbwyntiau penodol.

  • Nid yw data dysgwyr yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi'r modelau sylfaenol.

  • Caiff AI ei ddefnyddio i dynnu sylw at ble y gallai dysgwyr fod wedi cam-ynganu gair wrth ddarllen ac awgrymu geiriau iddynt eu hymarfer.

Y prif ystyriaethau ar gyfer ysgolion

  • Sicrhewch fod y defnydd o Reading Coach yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol, megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.

  • Mae lefelau Reading Coach yn seiliedig ar y Fframwaith Lexile ar gyfer Darllen.

Sicrwydd data

  • Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen Asesiad DPIA newydd.

  • Mae tri math o ddata yn cael eu creu fel rhan o brofiad Reading Coach: data llais, data stori a gynhyrchir gan AI, a data defnydd. Pan fydd dysgwyr yn defnyddio Reading Coach trwy Hwb, mae'r holl ddata yn cael ei storio gyda’u cyfrif Microsoft Hwb. Mae hyn yn gweithredu o fewn ffin gwasanaeth Microsoft 365 Education ac yn etifeddu'r un rheolaethau diogelwch, preifatrwydd, cydymffurfiaeth a diogelu data ag sydd gan Microsoft 365 ehangach. Mae Microsoft yn prosesu'r data fel prosesydd data yn unol ag Atodiad Diogelu Data (DPA) Cynnyrch a Gwasanaethau Microsoft.

  • Mae data llais yn cael ei brosesu ar ddyfais y defnyddiwr yn unig, wrth ddarllen testun yn uchel i nodi gwallau ynganu. Nid yw'n cael ei storio na'i rannu gyda Microsoft wedyn.

  • Mae data a gynhyrchir yn y stori AI ar gael i'r dysgwr yn unig. Mae'n cael ei storio a'i gysylltu â'u ID dysgwr ac nid yw'n cael ei rannu â Microsoft. Nid yw'n bosibl i ddysgwr gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanynt eu hunain wrth greu'r stori. Yn unol â safonau AI Cyfrifol Microsoft, ni all y stori gynnwys unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolion. Mae'r cynnwys wedi'i gymedroli'n llawn, ac mae’n ddiogel ac yn briodol i'r oedran dan sylw.

  • Dim ond i’r dysgwr y mae data defnydd sy'n gysylltiedig â hwy ar gael. Mae hyn yn cynnwys data darllen dros gyfnod, yn ogystal ag ystadegau defnydd na allai arwain at adnabod unigolion, megis lleoliad cyffredinol.

  • I gael yr holl wybodaeth am brosesu data, ewch i:


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2026