Mae cytundeb rhannu data yn ddogfen ffurfiol sy’n nodi’r telerau ar gyfer sefyllfa lle mae un sefydliad yn rhannu data personol neu ddata arall gyda sefydliad arall. Mae’n esbonio:
pam y caiff data ei rannu
sut y caiff ei ddefnyddio
beth yw cyfrifoldeb pob sefydliad sy’n rhan o’r cytundeb
Mae Porth Rheoli Defnyddwyr Hwb yn cynnwys ardal bwrpasol ar gyfer rheoli cytundebau rhannu data. Gall ysgolion ac awdurdodau lleol:
ddewis rheolwyr data
gweld cytundebau a chytuno iddynt
gwirio pwy sydd wedi llofnodi cytundebau
cael mynediad at hanes cytundebau ac adroddiadau
Mae’r cytundeb yn nodi’r cyfrifoldebau ar gyfer prosesu data personol fel y gall staff a dysgwyr gael mynediad at wasanaethau Hwb.
Gall gwahanol gytundebau fod yn berthnasol yn dibynnu ar y gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio. Efallai y gofynnir i ysgolion ac awdurdodau lleol adolygu cytundebau ychwanegol a chytuno iddynt lle bo angen.
Mae Cytundeb Rhannu Data Hwb yn ddogfen gyfreithiol. Mae’n rhaid i bennaeth ysgol, neu aelod o’r uwch dîm arwain sy’n gweithredu ar eu rhan, ymrwymo iddo.
Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod unigolion sydd wedi’u hawdurdodi’n briodol yn adolygu ac yn cytuno i gytundebau rhannu data ar ran eu sefydliad.
Gellir diweddaru cytundebau rhannu data i adlewyrchu newidiadau i wasanaethau, prosesau neu ofynion cyfreithiol. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i sefydliadau adolygu a chytuno ar y fersiwn diweddaraf cyn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth perthnasol.
Cedwir cofnod o gytundebau a dderbynnir. Mae hyn yn cynnig hanes o gytundebau ac unrhyw ddiweddariadau y cytunwyd arnynt.
Mae canllawiau ar gytundebau rhannu data ar gael i ysgolion ac awdurdodau lleol.
Os oes angen cymorth pellach arnoch chi, cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb.