Mae'r adran hon yn archwilio natur Cwricwlwm i Gymru. Mae creu dealltwriaeth gyffredin o'r egwyddorion hyn yn bwysig i’r cwricwlwm, gan gynnwys dulliau o feithrin cynnydd ac asesu, gael eu deall a’u gwireddu’n gyson ar draws Cymru.
Mae 2 fideo yn yr adran hon sy'n archwilio syniadau allweddol am theori ac ymarfer y cwricwlwm, a sut mae'r rhain yn cyd-gysylltu â Chwricwlwm i Gymru.
Mae'r fideo hwn yn cyflwyno dau gyd-destun sy'n helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru:
y duedd ryngwladol tuag at greu 'cwricwla’r unfed ganrif ar hugain'
modelau cwricwlwm: yn enwedig y dull o gynllunio cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar broses
Mae'r syniadau allweddol a gyflwynir yn y fideo hwn yn darparu sail ar gyfer meddwl am Gwricwlwm i Gymru fel un sy'n cyd-fynd orau â dull sy’n canolbwyntio ar broses.
Mae'r trosolwg hwn yn archwilio cydlyniad y cwricwlwm ymhellach, ac mae'n cynnwys cwestiynau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fyfyrio ar gydlyniad wrth gynllunio cwricwlwm.
Crëwyd y deunyddiau yma i gefnogi gwaith meddwl y grŵp cyd-ddatblygu ar fodelau'r cwricwlwm a'r hyn y mae pob un o'r modelau hyn yn ei olygu ar gyfer creu'r cwricwlwm yn ymarferol.
Mae deall y gwaith meddwl hwn yn helpu ymarferwyr i alinio'r cwricwlwm, asesu ac addysgeg â'r modelau sy'n sail i'r fframwaith cwricwlwm y maent yn gweithio gydag ef.
Mae cwestiynau wedi'u cynnwys er mwyn i unigolion a grwpiau o ymarferwyr fyfyrio ar eu dulliau eu hunain o addysgu mewn perthynas â modelau'r cwricwlwm.