Mae Camau i'r Dyfodol wedi dod ag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid ynghyd ar draws y system addysg i gyd-ddatblygu gwybodaeth a dulliau newydd o gefnogi gwireddu'r cwricwlwm, ac yn arbennig, cynnydd.
Mae'r deunyddiau hyn yn ganlyniad i'r broses gyd-ddatblygu hon, ac maent wedi'u creu i'w defnyddio gan unigolion, ysgolion a chlystyrau i gefnogi dealltwriaeth ddyfnach o Gwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm a arweinir gan y dibenion, sy'n canolbwyntio ar broses. Ei nod hefyd yw cefnogi dulliau o feithrin cynnydd wrth gynllunio'r cwricwlwm.
Mae'r deunyddiau wedi'u cynllunio i gefnogi ymarferwyr ledled Cymru i:
ymgymryd â'r un broses o ddysgu a meddwl am y cwricwlwm a chynnydd â chyfranogwyr yn y prosiect Camau i'r Dyfodol
gallu defnyddio deunyddiau a grëwyd gan gyfranogwyr y prosiect, wedi'u cynllunio i gefnogi dealltwriaeth ymarferol a gwireddu cynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru
Mae'r fideo hwn yn amlinellu natur a phwrpas y deunyddiau hyn ac yn rhoi trosolwg o gynnwys pob adran. Mae'r fideo hefyd yn trafod sut y cafodd y deunyddiau hyn eu creu.
Mae 3 rhan ac mae'r rhain wedi'u cynllunio i'w hystyried mewn trefn, gan adeiladu arnynt un ar y tro.
Deall Cwricwlwm i Gymru
Asesu a chynnydd mewn cwricwlwm a arweinir gan y dibenion
Gwireddu'r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd-destunau lleol
Mae'r diagram hwn yn dangos strwythur y deunyddiau.
Mae pob adran yn cynnwys:
Mae'r rhain yn cyflwyno'r syniadau sy'n sail i Gwricwlwm i Gymru a'i ddull o asesu, cynnydd a gwireddu. Gall y rhain gael eu defnyddio gan ymarferwyr unigol, neu yn rhan o drafodaethau ehangach ysgolion neu glystyrau i ddatblygu dealltwriaeth.
Mae'r canllawiau a'r gweithgareddau hyn yn caniatáu archwilio'r syniadau yn fanylach, gan gynnwys cwestiynau myfyriol ar adegau allweddol i gefnogi gwaith meddwl a thrafod am ddealltwriaeth ymarferol o Gwricwlwm i Gymru.
Mae'r adrannau hyn yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd yn uniongyrchol gan ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid addysgol i gefnogi dealltwriaeth ymarferol o gynnydd, yn ogystal â chanllawiau a gweithgareddau sy'n tynnu syniadau cyfranwyr ynghyd. Gall y rhain gael eu defnyddio gan unigolion neu grwpiau o ymarferwyr i gefnogi gwireddu Cwricwlwm i Gymru yn ymarferol yn barhaus.