Mae rhaglen genedlaethol i ddarparu cymorth ymarferol i ysgolion a lleoliadau ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu ac ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r rhaglen yn cynnwys mynediad at adnodd anghydamseredig dwyieithog sy’n nodi disgwyliadau clir wrth gynllunio cwricwlwm ac yn darparu cymorth ac enghreifftiau ymarferol.
Mae dros 200 o ysgolion eisoes wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn yn ystod y blwyddyn academaidd 2025 i 2026, gydag ysgolion yn cael eu dyrannu’n awtomatig i’r cohort nesaf sydd ar gael. Bydd 10 sesiwn a fydd yn darparu amser ar gyfer mewnbwn cychwynnol, cyflwyno ymarferol a myfyrio.
I gymryd rhan, llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb. Bydd pob ysgol a lleoliad sy’n cymryd rhan yn cael 2 le (1 uwch-arweinydd ac 1 ymarferydd). Ariennir y rhaglen yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy daliadau i awdurdodau lleol. Bydd pob ysgol a lleoliad sy’n cymryd rhan yn derbyn £300 y sesiwn.
Fel rhan o’r rhaglen, mae’r cyfres canlynol o adnoddau ar gael.
Mae’r daflen wybodaeth yn dangos y broses o gynllunio cwricwlwm ac asesu mewn 4 cam syml i gefnogi’r penderfyniadau a wneir ar lefel ysgol gyfan ac ystafell ddosbarth.
Mae’r fideo hwn o ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair y Forwyn yn dangos eu profiad a’u dulliau o gynllunio cwricwlwm.
Mae’r templed yn cefnogi’r broses gam wrth gam o gynllunio dysgu ar lefel ysgol gyfan neu leoliad a beth mae hyn yn ei olygu ar lefel yr ystafell ddosbarth.
Mae’r fideo yn dangos ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol Dyffryn Conwy yn siarad am eu profiad a’u dulliau o gynllunio dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth.
Nod y templed hwn yw symleiddio’r broses o gynllunio cwricwlwm o fewn egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar bwrpas dysgu a gwneud hyn yn glir i ddysgwyr.
Mae’r fideo yn dangos ymarferwyr a dysgwyr o Ysgol Bodhyfryd yn siarad am eu profiad a’u dulliau o ddatblygu bwrdd darlunio cwricwlwm.
Mae’r fideos hyn ar gyfer bob un o’r Meysydd yn helpu ymarferwyr ystyried sut gallai testun neu thema gyfrannu at ddealltwriaeth gysyniadol ehangach ac at wireddu’r pedwar diben.
Mae’r fideo hwn yn canolbwyntio ar broses yr ysgol o drefnu a gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol.
Mae’r fideo hwn yn canolbwyntio ar broses yr ysgol o drefnu a gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer Iechyd a Lles.