Mae deall diogelu data, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein yn hanfodol yn y byd digidol. Bob tro yr ydym yn defnyddio gwasanaethau digidol, rydym yn rhannu gwybodaeth amdanom ein hunain. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
peiriannau chwilio
siopa ar-lein
y cyfryngau cymdeithasol
negeseuon e-bost neu apiau negeseua
AI cynhyrchiol
Mae rhannu ein data yn ein helpu i gael gafael ar wybodaeth, defnyddio gwasanaethau a chadw mewn cysylltiad.
Yn y DU, mae diogelwch data yn cael ei reoli gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'n berthnasol i bob sefydliad, gan gynnwys ysgolion, sy'n storio, yn cyrchu neu'n casglu data personol.
Mae ysgolion yn cadw data yn ddigidol, sydd ar gael nid yn unig i'r ysgol ond hefyd i leoliadau eraill. Mae GDPR y DU yn nodi 7 egwyddor allweddol ar gyfer prosesu data personol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan ICO.
Mae AI cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i bweru sgwrsfotiaid rhyngweithiol a gwasanaethau ar-lein eraill. Mae'n bwysig deall y risgiau posibl o ran preifatrwydd a hawliau diogelu data wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys sut mae angen i wasanaethau ar-lein ddilyn set o safonau wrth ddefnyddio data pobl ifanc, sef y Cod Plant.
Mae eiddo deallusol yn ymwneud â'r berchnogaeth sydd gennych dros yr eitemau rydych yn eu creu, yn yr un modd ag yr ydych yn berchen ar eitem o siop. Un o'r prif fathau o eiddo deallusol yw hawlfraint. Mae hawlfraint yn eich amddiffyn rhag i eraill gopïo neu atgynhyrchu eich gwaith.
Mae hawlfraint yn fater awtomatig pan fydd gwaith sy'n gymwys i gael ei amddiffyn yn cael ei greu. Rhaid i'r gwaith fod yn wreiddiol, hynny yw mai'r awdur sydd wedi'i greu, gan ddefnyddio rhywfaint o grebwyll neu sgil yn y broses.
Mae gwybodaeth amdanoch chi, yr hyn rydych yn chwilio amdano ar-lein, a lle rydych yn siopa ac yn byw, yn werthfawr. Meddyliwch pwy all gael mynediad at y wybodaeth honno a sut mae'n cael ei chasglu drwy apiau a gwefannau. Rhaid i gwmnïau sy'n defnyddio eich data personol ddweud wrthych pam mae ei angen arnyn nhw a beth maen nhw'n ei wneud ag ef.
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich preifatrwydd a'ch data ar-lein.
Mae cyfrineiriau cryf, diogel yn hanfodol er mwyn gwarchod eich preifatrwydd. Newidiwch eich cyfrineiriau yn rheolaidd a pheidiwch â defnyddio'r un cyfrinair ar fwy nag un cyfrif. Lle bo'n bosibl, defnyddiwch system ddilysu gref neu sy'n defnyddio 2 ffactor.
Cymerwch amser i ddarllen telerau ac amodau'r apiau a'r gwefannau yr ydych am eu defnyddio. Byddan nhw’n dweud wrthych sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu a pha amodau y gofynnir ichi gytuno arnyn nhw. Bydd polisi preifatrwydd y gwasanaeth yn dweud wrthych:
pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei chasglu
sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth
p'un a ydyn nhw’n rhoi eich gwybodaeth i drydydd partïon
Unwaith y byddwch yn clicio ar 'Rwy'n cytuno', rydych yn cytuno iddyn nhw ddefnyddio a rhannu eich data yn unol â'r telerau a'r amodau, a'r polisi preifatrwydd. Nid yw clicio ar 'Rwy'n cytuno' yn golygu eich bod wedi colli eich holl hawliau i'ch data personol. Byddwch yn dal i allu codi pryder neu ofyn am fwy o fanylion. Gweler canllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am eich hawl i gael eich hysbysu os defnyddir eich data.
Mae'r rhan fwyaf o apiau a gwefannau yn cynnig gosodiadau preifatrwydd i ddefnyddwyr. Mae hyn yn rhoi gwybod ichi faint a pha fath o wybodaeth sy'n cael ei rhannu. Heb ichi addasu eich gosodiadau, fel arfer bydd modd i unrhyw un weld eich proffiliau a chael mynediad at eich manylion. Gwiriwch a yw'r gosodiadau yn rhoi mynediad at:
eich lleoliad
eich cysylltiadau
eich lluniau
eich calendrau
eich microffon
eich fideo
neu'n gallu anfon hysbysebion atoch
Meddyliwch cyn postio unrhyw beth ar-lein amdanoch chi'ch hun neu am eraill. Bydd mewngofnodi i ap, fideos, lluniau, neu unrhyw beth yr ydych yn ei bostio, yn gadael olion gwybodaeth amdanoch chi ac eraill. Mae hefyd yn bwysig cofio y gellir gwneud copi o unrhyw beth yr ydych yn ei rannu ar-lein yn hawdd.
Os nad oes angen ap neu wasanaeth ar-lein arnoch mwyach, mae'n arfer diogelwch da i ddileu eich cyfrif ynghyd â'r ap cysylltiedig.
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a lle i fynd am help.
Darganfyddwch beth y gallwch wneud copi ohono, ei rannu neu ei ailddefnyddio yn gyfreithlon gyda Thrwydded CLA.
Adnodd ar-lein annibynnol a luniwyd er mwyn egluro cyfraith hawlfraint y DU.
Adnoddau i gefnogi gwersi yn yr ystafell ddosbarth am ddata, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein.
Canllawiau ar gyfer ysgolion, prifysgolion a cholegau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Help i ysgolion weithredu'r strategaeth rheoli gwybodaeth ac argymhellion diogelu data.
Yn darparu camau ymarferol i ysgolion o ran rheoli delweddau a fideos o ddysgwyr yn ddiogel.
Casgliad o ganllawiau ar sut i ddiogelu, rheoli a gorfodi hawlfraint.
Gwiriwch pa drwyddedau y gallai fod eu hangen ar ysgol yn y DU er mwyn rhannu, copïo neu ddefnyddio deunyddiau sydd â hawlfraint.
Darganfyddwch beth y gallwch wneud copi ohono, ei rannu neu ei ailddefnyddio yn gyfreithlon gyda Thrwydded CLA.
Adnodd ar-lein annibynnol a luniwyd er mwyn egluro cyfraith hawlfraint y DU.