Nod y ddogfen hon yw eich helpu i ymgymryd â’ch dyletswyddau diogelu fel bwrdd llywodraethu. Gellir ei hystyried yn ddogfen ategol i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru, ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’, sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant. Mae hyn yn cynnwys helpu ysgolion i ddarparu amgylchedd diogel, cyfrifol a chefnogol ar gyfer dysgu, ac atal mynediad at ddeunydd amhriodol neu niweidiol.
Holl lywodraethwyr a chyrff llywodraethu ysgolion a cholegau Cymru.
Mae pobl ifanc yn dweud bod arweinwyr ysgolion ac athrawon yn tanamcangyfrif bob amser nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc. Mae ystadegau adroddiad Estyn (Rhagfyr 2021) yn cadarnhau bod hwn yn fater hynod bwysig sy'n effeithio ar blant – dywedodd 76% o ddisgyblion eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd i eraill, a dywedodd 86% o ferched eu bod wedi gweld neu brofi aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. 'Yn fwy aml ar-lein' oedd yr ateb mwyaf poblogaidd i 'ble mae aflonyddu rhywiol rhwng disgyblion yn digwydd amlaf?'. Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn cydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gyffredin iawn ym mywydau dysgwyr ac y dylid dilyn dull ataliol a rhagweithiol ar lefel ysgol gyfan i ddelio ag ef.
Mae'r ddogfen fer hon yn esbonio beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein, ac yn tynnu sylw at wybodaeth ychwanegol sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnig cwestiynau allweddol y dylech fod yn eu gofyn yn eich rôl fel llywodraethwr/arweinydd ysgol, i gefnogi'r ysgol yn ei gwaith o ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc.
Wrth sôn am aflonyddu rhywiol ar-lein, rydym yn golygu unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso sy'n digwydd ar unrhyw blatfform digidol. Gall fod ar amrywiol ffurfiau, gan gynnwys bygythiadau rhywiol, bwlio rhywiol, cyswllt rhywiol digroeso a rhannu neu greu delweddau neu fideos personol heb gydsyniad yr unigolyn. Mae'n gallu codi ofn ar berson, creu ymdeimlad o fygythiad, cywilydd neu waradwydd, a gwneud i berson deimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn ei erbyn hyd yn oed.
Beth i chwilio amdano?
Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cael sylw penodol mewn polisi ysgol ac mae staff yr ysgol yn ymwybodol o'r hyn yw aflonyddu rhywiol ar-lein, y ffurfiau gwahanol posibl sydd iddo, a’i nodweddion penodol. Mae’r ysgol yn deall yn glir beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein a pham nad yw’n dderbyniol.
Mae staff yr ysgol yn ymwybodol o’r ffaith y gall aflonyddu rhywiol ar-lein orgyffwrdd ag aflonyddu rhywiol all-lein a mathau eraill o ymddygiad rhywiol niweidiol.
Mae gan yr ysgol ddealltwriaeth glir o’r derminoleg y cytunwyd arni wrth gyfeirio at unigolion sydd ynghlwm mewn achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein (er enghraifft, dioddefwyr, cyflawnwyr, cyflawnwyr honedig, gwylwyr) a sut y dylid ei defnyddio.
Mae’r ysgol yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r ystod o faterion sy’n ymwneud â rhagfarn.
Mewn perthynas â thrafod profiadau ar-lein plant a phobl ifanc, mae staff yr ysgol yn deall yr iaith, yr agweddau a'r ymddygiadau sy’n gallu cyfleu bod bai ar y dioddefwr, ac maent yn deall bod beio plant a phobl ifanc am unrhyw gamdriniaeth neu niwed y maent wedi'i brofi yn annerbyniol bob amser.
Mae staff yr ysgol yn ymwybodol o’r ystod o faterion sy’n gallu cyfrannu at sefyllfa lle mae dysgwyr yn arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein.
Mae’r ysgol yn gyfarwydd â’r prif gyfreithiau a chanllawiau statudol sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol ar-lein.
Atal aflonyddu rhywiol ar-lein: Arfer da
Mae’r ysgol yn gweithredu ar lefel ysgol gyfan ac yn gwreiddio negeseuon am ddiogelwch ar-lein a chydberthnasau iach ar draws y cwricwlwm a’r gymuned, gan gynnwys negeseuon am aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae’r uwch dîm arwain yn hyderus ac yn gofalu bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeall, atal ac ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae’r ysgol yn cefnogi’r holl staff yn eu dyletswydd i ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein drwy bolisïau, gweithdrefnau a chyfleoedd hyfforddi a datblygu rheolaidd.
Mae’r dysgwyr a’r staff yn deall hanfodion cadw eu hunain yn ddiogel ar-lein – gan gynnwys gosodiadau preifatrwydd, sut i roi gwybod pan fydd rhywbeth yn digwydd, a sut i drefnu bod deunyddiau yn cael eu tynnu i lawr.
Mae’r ysgol yn sicrhau bod y gymuned ysgol gyfan yn cael ei chynnwys mewn gwaith atal, gan gynnwys creu polisïau cysylltiedig, a deall beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae pob aelod o’r staff yn deall sut mae rhoi gwybod am unrhyw achos o gam-drin ar-lein a ddaw i’w sylw.
Mae’r dysgwyr yn cael gwybod am y llwybrau hysbysu gwahanol sydd ar gael iddynt a sut y cânt eu cefnogi.
Mae’r dysgwyr yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt roi gwybod am ddigwyddiad, ac yn deall na fyddant byth yn cael eu beio am unrhyw gamdriniaeth neu niwed a brofant.
Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn cael gwybod am y llwybrau hysbysu gwahanol sydd ar gael iddynt.
Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar ôl iddynt/i’w plentyn roi gwybod am ddigwyddiad a sut y cânt eu cefnogi.
Mae’r staff yn deall sut mae plant a phobl ifanc yng nghymuned yr ysgol yn defnyddio technoleg.
Mae’r ysgol yn gyfarwydd â’r dyfeisiau, y gwefannau a’r apiau y mae cymuned yr ysgol yn eu defnyddio.
Mae’r ysgol yn hyrwyddo defnydd cadarnhaol o dechnoleg.
Mae canlyniadau i aflonyddu rhywiol, ar-lein ac all-lein, ac mae cymuned gyfan yr ysgol gyfan yn glir ynghylch sut y bydd achosion yn cael eu trin.
Mae’r staff a’r dysgwyr yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae’r ysgol yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc sy’n dioddef aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae’r ysgol yn monitro ac yn mesur effaith ei gwaith atal.
Pryd i fod yn bryderus
Nid oes gan yr ysgol bolisïau diogelwch ar-lein o sylwedd, os o gwbl, gan gynnwys polisïau ynghylch ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae'r ysgol wedi paratoi polisïau sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol, ond nid yw'r rhain wedi’u gwreiddio o fewn yr ysgol na'u rhannu â staff.
Yr hyn i chwilio amdano
Mae’r staff yn gyfarwydd â phrosesau'r ysgol ynghylch ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein, a gallant gael gafael arnynt yn hawdd ac yn gyflym.
Mae cymuned gyfan yr ysgol yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r ysgol yn cefnogi dysgwyr sy’n cael eu cam-drin y tu allan i’r ysgol, ac yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae'r staff yn ymwybodol o agweddau dysgwyr at roi gwybod am ddigwyddiadau, a’r hyn sy’n eu rhwystro rhag gwneud hynny, ac yn gwneud ymdrech i wella’r sefyllfa.
Mae’r dysgwyr sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn cael eu cynnwys mewn ffordd briodol yn y broses o wneud penderfyniadau a datrys y sefyllfa.
Mae staff priodol yn derbyn hyfforddiant ar sut i gynnal asesiad risg er mwyn penderfynu a yw digwyddiad yn anghyfreithlon.
Mae’r staff yn gwybod beth i’w wneud os ydynt yn amau bod gweithgarwch aflonyddu rhywiol ar-lein yn torri’r gyfraith.
Mae’r staff yn gwybod sut i gyfeirio adroddiadau at uwch aelodau staff priodol drwy weithdrefn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn ymgynghori ag asiantaethau eraill er mwyn cael eu cefnogaeth (er enghraifft y bwrdd lleol diogelu plant, gwasanaethau cymdeithasol plant, swyddogion cymuned ysgol yr heddlu).
Mae 1 aelod o’r staff yn gweithredu fel pwynt cyswllt os oes asiantaethau eraill yn ymwneud ag achos. Mae cynllun clir o ran sut i hwyluso trefniadau cydweithio amlasiantaethol yn effeithiol.
Mae’r staff yn gyfarwydd â phrosesau’r ysgol o ran chwilio dysgwyr, cymryd dyfeisiau a dileu deunydd, a gallant gael gafael ar bolisïau’r ysgol ar gyfer hyn yn hawdd ac yn gyflym.
Mae’r holl ddysgwyr a allai fod wedi cael eu heffeithio gan achos o aflonyddu rhywiol ar-lein (gwylwyr, dioddefwyr a chyflawnwyr) yn cael cynnig cymorth parhaus.
Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn cael gwybod am unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ac yn cael eu cynnwys yn y broses o’u datrys.
Mae’r dysgwyr sydd wedi cyflawni gweithgarwch aflonyddu rhywiol ar-lein yn cael cymorth i newid eu hymddygiad.
Arfer da
Mae’r ysgol yn adolygu ei phrosesau a’i pholisïau ar-lein yn rheolaidd gan ddefnyddio adnodd hunan-adolygu 360 Safe Cymru, ac yn cynnwys ei drafod mewn cyfarfodydd tîm.
Mae gan yr ysgol lwybrau a mecanweithiau hysbysu amlwg, gan gynnwys rhai ar-lein, ar gyfer dysgwyr a rhieni a gofalwyr.
Mae'r holl staff yn ymwybodol o ffynonellau cymorth mewn perthynas ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein, fel: y llinell gymorth Professionals Online Safety Helpline, Riportio Cynnwys Niweidiol, ‘Canllawiau 'Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth' , a phecynnau cymorth addysgu ‘Codi Llaw, Codi Llais’ a ‘Dim ond jôc?’ (gweler yr adran Adnoddau ategol).
Mae gan y Person Diogelu Dynodedig a’i ddirprwyon y sgiliau priodol ac maent wedi cael eu hyfforddi i ddelio â'r gwahanol risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ar-lein. Gall fod aelodau ychwanegol o'r staff wedi'u henwebu i roi cymorth yn y maes hwn gan ddefnyddio eu harbenigedd.
Mae’r staff yn cael hyfforddiant priodol ar ddiogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys yn ymwneud â diogelwch ar-lein.
Mae gan yr ysgol strategaethau wedi’u cynllunio effeithiol ar gyfer cymorth gan gyfoedion, er enghraifft, mecanweithiau hysbysu neu brosesau uwchgyfeirio, a gefnogir gan holl staff yr ysgol neu’r coleg.
Mae’r ysgol yn ymchwilio i ymddygiad a risgiau ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth sylfaenol gan y dysgwyr am y lefelau a'r mathau o broblemau ar-lein sy'n gyffredin yn yr ysgol neu’r coleg.
Mae’r ysgol yn ymgymryd â gwaith gwerthuso rheolaidd mewn perthynas â llwybrau hysbysu a gweithdrefnau ymateb.
Mae adroddiad y pennaeth i'r corff llywodraethu yn tynnu sylw at wybodaeth a data am ddiogelwch ar-lein.
Mae penderfyniadau ynghylch hidlo a monitro priodol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, yn unol ag anghenion yr ysgol neu’r coleg, ac mae gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu’n glir i'r staff, y dysgwyr, y rhieni a’r gofalwyr.
Pryd i fod yn bryderus
Nid oes llwybrau hysbysu, neu mae’r llwybrau hysbysu yn aneglur, neu’n anghyson.
Nid oes prosesau cofnodi er mwyn galluogi'r ysgol neu’r coleg i nodi a monitro pryderon.
Nid yw’r dysgwyr, y rhieni a’r gofalwyr yn ymwybodol o’r llwybrau hysbysu, neu nid ydynt yn ymddiried ynddynt.
Mae’r staff yn ansicr sut i gefnogi dysgwyr, rhieni a gofalwyr o ran achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
Nid oes dulliau hidlo a monitro priodol ar waith, a/neu mae diffyg dealltwriaeth o'r penderfyniadau a wneir gan y tîm arwain mewn perthynas â hidlo a monitro priodol.
Yr hyn i chwilio amdano
Cofnod o anghenion hyfforddiant yr holl staff .
Mae’r staff yn manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yn ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.
Mae hyfforddiant sy'n gwella gwybodaeth ac arbenigedd y staff o ran ymddygiad diogel a defnydd priodol o dechnoleg yn cael ei gynnig a’i ddilyn.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein sy'n rhan annatod o'r hyfforddiant diogelu sy'n ofynnol ar gyfer pob aelod o'r staff o leiaf unwaith y flwyddyn.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) sy'n rhan annatod o broses sefydlu pob aelod newydd o staff.
Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) sy’n cael ei gydlynu gan y person diogelu dynodedig.
Tystiolaeth bod y person diogelu dynodedig (a'i ddirprwyon) wedi sicrhau bod ganddynt wybodaeth a sgiliau cadarn mewn perthynas â diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein).
Mae'r ysgol wedi ystyried a sefydlu systemau hidlo a monitro priodol ar gyfer ei seilwaith digidol a’r cysylltedd, i amddiffyn defnyddwyr rhag cael mynediad at ddeunydd amhriodol neu ymweld â gwefannau amhriodol.
Arfer da
Mae’r person diogelu dynodedig a’i ddirprwyon â lefel uwch o hyfforddiant, gwybodaeth ac arbenigedd o ran materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein), a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir mewn perthynas â diogelwch ar-lein cymuned yr ysgol neu’r coleg.
Datblygu arbenigedd o ran diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) ar draws carfan o staff er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth a sgiliau eu trosglwyddo a'u cynnal.
Sefydlu hyfforddiant clir ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) fel rhan o hyfforddiant diogelu ehangach yr ysgol neu’r coleg.
Diweddaru deunydd hyfforddiant er mwyn adlewyrchu ymchwil gyfredol a datblygiadau ym maes technoleg yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau lleol.
Rhoi hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) i bob aelod newydd o staff fel rhan o'r broses sefydlu.
Pryd i fod yn bryderus
Nid yw’r person diogelu dynodedig na’i ddirprwyon wedi’u hyfforddi na’u hawdurdodi’n briodol o ran diogelwch ar-lein.
Nid oes 1 person neu grwp cydnabyddedig sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar-lein, neu sydd â’r hyfforddiant a’r awdurdod priodol.
Nid oes unrhyw hyfforddiant i bob aelod o’r staff, nid oes llawer o hyfforddiant i bob aelod o’r staff neu nid yw’r hyfforddiant i bob aelod o’r staff yn gyfredol.
Mae rhai aelodau o'r staff sydd heb gael unrhyw hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein).
Nid oes hyfforddiant diweddar rheolaidd, sy’n cael ei ddilyn yn flynyddol o leiaf.
Nid yw'r hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) yn cyflawni anghenion y staff.
Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar hen adnoddau, neu ddeunyddiau nad ydynt yn gywir.
Mae diffyg eglurder ynglyn â phwy sy'n cydlynu hyfforddiant staff.