Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cymraeg Craidd

Trosolwg o'r rhaglen

  • Hyd: un flwyddyn academaidd

  • Lleoliad: dysgu ar-lein

  • Cynulleidfa: ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion sy’n gyfrifol am addysgu neu arwain Cymraeg Craidd

Trosolwg

Mae dysgu proffesiynol Cymraeg Craidd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu addysgu Cymraeg o ansawdd uchel sy'n cynyddu hyder dysgwyr, eu defnydd o'r Gymraeg a'u cynnydd.

Mae'r rhaglen yn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys Cwricwlwm i Gymru, uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a chyflwyno'r cymwysterau TGAU Cymraeg Craidd newydd. Mae'n darparu cymorth ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i arweinwyr ac athrawon drwy ddysgu proffesiynol, rhwydweithiau pwnc, cymorth wedi'i deilwra i ysgolion, gweithgareddau hunanwerthuso ac adnoddau o ansawdd uchel.

Trwy gryfhau gwybodaeth bynciol, addysgeg ac arferion asesu, mae'r rhaglen yn helpu ysgolion i greu profiadau dysgu difyr sy'n hyrwyddo llafaredd, llythrennedd a pherthynas gadarnhaol â'r Gymraeg, gan alluogi mwy o ddysgwyr i ddefnyddio a mwynhau'r iaith yn hyderus.

Cynnwys y rhaglen

Mae cynnig dysgu proffesiynol Cymraeg Craidd yn darparu cymorth wedi'i dargedu i athrawon, arweinwyr ac ysgolion er mwyn cryfhau addysgu a dysgu Cymraeg. Mae'r cynnig yn cyfuno dysgu proffesiynol, rhwydweithiau pwnc, cymorth ysgol wedi'i deilwra, canllawiau cymwysterau ac adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a gwella deilliannau dysgwyr.

Mae cyfres o fodiwlau microddysgu yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu addysgeg, gwybodaeth bynciol ac arferion sy'n gwella hyder, defnydd a chynnydd dysgwyr yn y Gymraeg.

Modiwlau'r rhaglen

Modelu patrymau
Crynodeb

Modelu patrymau iaith i wella cywirdeb a hyder dysgwyr.

Meysydd dysgu allweddol
  • Caffael iaith

  • Patrymau brawddegau

Fformat

Dysgu cyfunol

Hyd

Modiwl microddysgu

Datblygu annibyniaeth
Crynodeb

Datblygu annibyniaeth, gwytnwch a pherchnogaeth dysgwyr dros eu dysgu.

Meysydd dysgu allweddol
  • Dysgu annibynnol

  • Asiantiaeth dysgwr

Fformat

Dysgu cyfunol

Hyd

Modiwl microddysgu

Defnyddio cwestiynu effeithiol
Crynodeb

Defnyddio cwestiynu effeithiol i gryfhau llafaredd, gwrando a deialog.

Meysydd dysgu allweddol
  • Llafaredd

  • Cwestiynu

  • Deialog

Fformat

Dysgu cyfunol

Hyd

Modiwl microddysgu

Mae'r cynnig dysgu proffesiynol Cymraeg Craidd wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr ac arweinwyr sy'n gyfrifol am addysgu, datblygu neu arwain Cymraeg Craidd mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae'n berthnasol i weithwyr proffesiynol ar wahanol gamau o'u gyrfa, o athrawon sy'n datblygu eu hyder a'u harbenigedd mewn addysgu Cymraeg Craidd i arweinwyr sy'n gyfrifol am ddatblygu darpariaeth ac arwain gwelliant ar draws ysgolion.

Bydd gwybodaeth am gyfleoedd dysgu proffesiynol Cymraeg Craidd yn cael ei chyhoeddi drwy sianeli Dysgu.

Bydd manylion am raglenni, digwyddiadau, rhwydweithiau a chyfleoedd cymorth ar gael wrth iddynt gael eu lansio. Gall rhai gweithgareddau fod yn agored i bob ymarferydd, tra bydd eraill yn gofyn am gofrestru er mwyn sicrhau bod y cymorth yn diwallu anghenion penodol cyfranogwyr ac ysgolion.

Bydd adnoddau, canllawiau a deunyddiau dysgu perthnasol ar gael drwy Dysgu a Hwb lle bo hynny'n briodol.