Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer carfan 2027 yn agor ddydd Mercher 25 Tachwedd 2026. Mae'r broses ymgeisio yn cael ei chynnal gan Dysgu.

Ar ôl cael cefnogaeth eich pennaeth neu'ch cyflogwr presennol a'ch awdurdod lleol, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais erbyn 16:00 ddydd Llun 11 Ionawr 2027.

Mae fersiwn PDF o'r cwestiynau sydd ar y ffurflen gais i'w gweld isod ac mi fydd ar gael o’r dyddiad agor ar 25 Tachwedd 2026.

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr o ysgolion a gynhelir o bob rhan o Gymru sy'n credu y gallant ddangos tystiolaeth o brofiad perthnasol i fodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer, er enghraifft aelodau o uwch dimau arwain.

Croesewir ceisiadau hefyd gan y rhai sydd â statws athro cymwysedig ac sydd a'r profiad angenrheidiol i arwain ysgol a enillwyd drwy waith mewn sefydliadau eraill o fewn y system addysg, er enghraifft, awdurdodau lleol, partneriaethau lleol, Estyn.

Gofynion cymhwysedd a phrofiad blaenorol

Er mwyn gwneud cais, rhaid i ymgeiswyr:

  • feddu ar statws athro cymwysedig

  • bod wedi cwblhau cyfnod sefydlu statudol (os cawsant SAC ar ôl 1 Ebrill 2003)

  • meddu ar brofiad o rôl arweinyddiaeth uwch yn y sector addysg

Os yw'r ymgeiswyr mewn swydd addysgu gyfredol, rhaid iddynt hefyd fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gwybodaeth a sgiliau

Fel rhan o'u cais, dylai ymgeiswyr ddangos:

  • eu hymrwymiad i gefnogi pob dysgwr, gan eu galluogi i fod cystal ag y gallant fod

  • eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gyd-destun a diwygiadau addysg Cymru, gan gynnwys gofynion Cwricwlwm i Gymru a'r Ddeddf ADY

  • eu hymrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

  • eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chreu amgylchedd lle y mae dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel i herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon

  • eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r hyn a olygir wrth addysgu a dysgu rhagorol a sut i'w sicrhau, er mwyn gofalu am anghenion amrywiol a chymhleth dysgwyr ar draws yr ysgol

  • eu profiad o gyfathrebu a datblygu perthynas yn effeithiol â chymuned yr ysgol ac amrywiaeth o bartneriaid

  • eu hymrwymiad i'r agenda diwygio addysg yng Nghymru

Ymddygiadau

Dylai ymgeiswyr hefyd nodi eu profiad o:

  • fod yn wydn dan bwysau a pharhau'n bositif a brwdfrydig

  • defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol

  • gweithredu ag uniondeb a sensitifrwydd

  • parodrwydd i ddysgu

Mae tri cham i'r broses ymgeisio:

  • cyflwyno ffurflen gais

  • bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad

  • Ceir rhagor o wybodaeth am bob cam isod

Cam 1: Y cais

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais sy'n dangos tystiolaeth o'u sgiliau a'u profiad perthnasol yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth a'r gofynion cymhwysedd a phrofiad blaenorol.

Bydd fersiwn PDF o'r cwestiynau cais ar gael yma pan fydd y broses yn agor ddydd Mercher 25 Tachwedd 2026.

Dylid cyflwyno pob cais drwy'r ffurflen ar-lein erbyn 16:00 ddydd Llun 11 Ionawr 2027.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu manylion dau ganolwr. Dylai un canolwr fod yn rhywun sy’n gweithio gyda chi bob dydd (er enghraifft eich rheolwr llinell), a dylai un canolwr fod yn rhywun sy’n gweithio ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol

Rhaid i ymgeiswyr gadarnhau bod eu cais yn cael ei gefnogi gan eu pennaeth neu cyflogwr a'r Awdurdod Lleol.

Cam 2: Y sifft

Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau, bydd panel dethol cenedlaethol CPCP Cymru yn dod ynghyd i asesu a didoli pob cais. Bydd y panel dethol yn cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau Addysg Uwch, awdurdodau lleol, partneriaethau rhanbarthol a phenaethiaid presennol. Bydd enwau'r ymgeiswyr yn cael eu cuddio yn y cam hwn o'r broses.

Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i'r galw am benaethiaid ar sail ddaearyddol, sector neu gyfrwng iaith wrth gytuno'n derfynol pa ymgeiswyr fydd yn symud ymlaen i gael eu hasesu.

Gofynnir am eirda ar gyfer y rhai sy'n llwyddo yn y cam sifftio cyn yr asesiad.

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu hysbysu gan Dysgu erbyn dydd Llun 8 Mawrth 2027.

Bydd penderfyniad y panel sifftio yn derfynol.

Cam 3: Yr asesiad

Caiff yr ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam sifftio eu gwahodd i'r cam asesu.

Bydd yr asesiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru yn ystod mis Ebrill 2027.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd ei angen fel rhan o'r cam asesu yn cael ei rannu â'r ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn y cam sifftio.

Unwaith y bydd yr holl asesiadau wedi'u cynnal, bydd y panel dethol cenedlaethol yn ailymgynnull i gymedroli.

Fel yn achos y cam sifftio, bydd y galw am benaethiaid, ar sail anghenion daearyddol, sector neu gyfrwng iaith, yn cael ei ystyried er mwyn cytuno'n derfynol ar yr ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn symud ymlaen i'r rhaglen.

Efallai y bydd y panel yn cytuno i osod ymgeiswyr ar restr wrth gefn os oeddent yn llwyddiannus yn eu hasesiad ond heb gael lle ar y rhaglen oherwydd yr angen i sicrhau cydbwysedd o gyfranogwyr ledled Cymru ac ar gyfer sectorau penodol. Gellid dod ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr wrth gefn i mewn i'r rhaglen os bydd cyfranogwr arall yn gwrthod eu gwahoddiad, neu gellid eu blaenoriaethu ar gyfer y rhaglen nesaf.

Apelio

Ni fydd ymgeiswyr yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad panel dethol cenedlaethol CPCP.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Gwener, 6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Llun, 12 Hydref 2026