Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae'r rhaglen CPCP Cymru yn brofiad dysgu proffesiynol hanfodol ac, os ydych chi'n credu ei fod ar eich cyfer chi, bydd disgwyliadau proffesiynol arnoch yn unol â chyfrifoldebau prifathrawiaeth. Fel unigolyn sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, bydd disgwyl ichi gytuno i:

  • ganolbwyntio’n ddi-ildio ar wella prosesau addysgu a dysgu a deilliannau

  • cymryd cyfrifoldeb llawn am eich dysgu proffesiynol eich hun

  • datblygu eglurder ynghylch y graddau y gall dimensiynau arweinyddiaeth a'r gallu i fod yn arweinydd effeithiol gael effaith ar ddeilliannau disgyblion

  • bod yn ymrwymedig i arwain ar agwedd ar welliant gwirioneddol mewn ysgol gan ganolbwyntio ar elfennau o'r agenda genedlaethol, a fydd yn rhoi mewnwelediad i chi ar arweinyddiaeth a datblygu sgiliau

  • gweithredu ar yr adborth a gynigir gan yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a chyfranogwyr eraill

  • myfyrio ar ganlyniadau eich hunanasesiad 360 a datblygu eich meysydd gwella

  • bod yn agored ac yn onest am y llwyddiannau a'r heriau yn eich lleoliad eich hun

  • ymdrin â lleoliadau eraill gyda meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu

  • parchu cyfrinachedd. Bydd cyfranogwyr yn cytuno i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a rennir gan eraill mewn unrhyw gyd-destun heb ganiatâd penodol. Mae'r cyd-destunau yn cynnwys sesiynau hyfforddi, o fewn lleoliadau ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu neu ar elfennau preswyl

  • meithrin yr arfer o ymgysylltu'n rheolaidd â llenyddiaeth ac ymchwil berthnasol a chwblhau unrhyw ddarllen, aseiniadau neu weithgareddau ymlaen llaw

  • meithrin rhwydweithiau proffesiynol gyda chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang a fydd yn eich gwthio ac yn cynnal uchelgais proffesiynol

  • mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag agweddau rheoli ar arweinyddiaeth ysgolion yn eich lleoliad eich hun

  • mynychu holl agweddau gorfodol y cwrs (sesiynau preswyl, ymweliadau ysgol a sesiynau hyfforddi)

  • cadw at y dyddiadau cau yn ôl y gofyn

  • rhoi adborth adeiladol i drefnwyr y rhaglen


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Gwener, 6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Llun, 12 Hydref 2026