Yng Nghymru, mae'n ofyniad statudol i bob pennaeth parhaol a benodir feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Rydym am ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o benaethiaid i arwain ein hysgolion drwy ein hagenda diwygio addysg er mwyn ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc. Mae swydd pennaeth yn un gwerth chweil ac yn heriol, a'n nod yw sicrhau bod pob darpar bennaeth yn cael eu cefnogi a'u datblygu wrth iddynt gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.
Yn dilyn adolygiad annibynnol cychwynnol o raglen CPCP Cymru ym mis Mai 2023, datblygwyd rhaglen newydd. Mae'r rhaglen newydd yn hyrwyddo'r arfer o feithrin arbenigedd a hyder drwy ymgysylltu'n weithredol â'r her a ddisgwylir o wneud swydd pennaeth, a thrwy adborth uniongyrchol a dylanwadol yng nghyd-destun y Safonau Proffesiynol ar gyfercynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth.
Ers mis Medi 2025, mae'r rhaglen CPCP wedi cael ei chyflwyno gan Dysgu. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ysbrydoli, herio a chefnogi cyfranogwyr wrth iddynt wella eu harferion arweinyddiaeth presennol a datblygu cymwyseddau newydd a fydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ddeilliannau a chyfleoedd bywyd i ddysgwyr. Bydd llawer o'r rhaglen wedi'i theilwra i unigolion ac yn ymateb i'r gofynion sydd ar benaethiaid a'u rôl wrth sicrhau llwyddiant eu hysgol a'r agenda genedlaethol.
Bydd y rhaglen newydd yn rhoi pwyslais di-ildio ar wella deilliannau dysgwyr a bydd yn darparu:
cyfle i arwain
profiad, dan arweiniad, o ystod o gyd-destunau arwain
mynediad at astudiaethau achos o arweinyddiaeth a safbwyntiau damcaniaethol a chyfle i ymgysylltu â nhw
cyfleoedd i gael trafodaethau dwfn a heriol gyda chymheiriaid
ymwybyddiaeth o'r cyfrifoldebau rheoli sy'n disgyn ar benaethiaid
Mae adborth yn cael ei gynnwys ym mhob cam i alluogi unigolion i ddatblygu a thyfu o ganlyniad i'w profiad.