Ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Dysgu.
Hyd: un flwyddyn academaidd
Lleoliad: wyneb yn wyneb ac ar-lein
Cynulleidfa: arweinwyr canol
Recriwtio: tymor y gwanwyn 2027
Mae’r Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol (MLDP) yn rhaglen genedlaethol, wedi’i harwain gan ymholiadau a ddyluniwyd i gryfhau’r gallu arweinyddiaeth ar hyd a lled Cymru.
Mae’r rhaglen yn cefnogi arweinwyr canol i wella addysgu a dysgu, atgyfnerthu hunanwerthusiad ac arwain gwelliannau cynaliadwy yn eu timau a’u lleoliadau. Drwy gyfuniad o fewnbwn arbenigol, dysgu proffesiynol cydweithredol a chymhwysiad ymarferol, mae’r cyfranogwyr yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i arwain yn effeithiol mewn tirwedd addysgol sy’n newid.
Yn ganolog i’r rhaglen hon mae’r Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth, prosiect byw o welliannau sy’n cael ei gysylltu â blaenoriaeth ysgol. Drwy gysylltu datblygiad arweinyddiaeth yn uniongyrchol ag ymarfer, mae’r rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i wella addysgu, gwella profiadau dysgwyr a chyfrannu at ganlyniadau gwell i blant a phobl ifanc.
Mae’r Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol yn rhaglen datblygu arweinwyr blwyddyn o hyd, a ddyluniwyd ar gyfer arweinwyr canol sy’n gyfrifol am arwain timau, gwella ymarfer ac ysgogi gwelliannau yn eu lleoliad.
Wedi’i datblygu o amgylch Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth, mae’r rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr i ymchwilio a mynd i’r afael â blaenoriaeth gwella gwirioneddol yn eu cyd-destun eu hunain. Drwy ymholiad cydweithredol, dialog proffesiynol a chymhwysiad ymarferol, mae’r cyfranogwyr yn cryfhau eu hymarfer arweinyddiaeth, yn datblygu dealltwriaeth strategol well ac yn magu’r hyder sydd ei angen i ddylanwadu ar welliannau.
Mae’r rhaglen yn rhan bwysig o gontinwwm datblygu arweinyddiaeth Dysgu, yn cefnogi cynnydd i uwch arweinwyr a chyfrifoldebau arweinyddiaeth ehangach.
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
dysgu proffesiynol cyfunol
2 ddigwyddiad wyneb yn wyneb (lansiad a digwyddiad rhannu terfynol)
6 modiwl wedi’u darparu ar hyd y flwyddyn academaidd
trafodaethau grŵp POD wedi’u hwyluso
dysgu proffesiynol ac ymholiadau cydweithredol
Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth
cyfleoedd rhwydweithio proffesiynol
gweithgareddau arweinyddiaeth fyfyriol
Un flwyddyn academaidd.
Archwilio rôl arweinwyr canol yn y dirwedd addysgol sy’n newid a datblygu dealltwriaeth o sut mae arweinyddiaeth yn cyfrannu at welliannau.
Deall y dirwedd addysgol sy’n newid yng Nghymru.
Archwilio rôl a chyfrifoldebau arweinwyr canol.
Cyflwyno’r Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth.
Ymarfer arweinyddiaeth fyfyriol.
Datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain addysgu a dysgu o ansawdd uchel a chefnogi gwelliannau drwy ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Arwain addysgu a dysgu effeithiol.
Monitro ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.
Hunan-arfarnu a chynllunio gwelliannau.
Defnyddio tystiolaeth a data i wella canlyniadau dysgwyr.
Cryfhau gallu arweinyddiaeth drwy ddealltwriaeth well o gynllunio, atebolrwydd a’r systemau sy’n cefnogi gwelliannau cynaliadwy.
Cynllunio strategol ar gyfer gwelliannau.
Rheoli adnoddau.
Ymwybyddiaeth ariannol.
Arweinyddiaeth tîm ac atebolrwydd.
Archwilio sut mae cydweithrediad yn cefnogi gwelliannau yn yr ysgol a thu hwnt drwy berthnasoedd a phartneriaethau proffesiynol effeithiol.
Datblygu partneriaethau effeithiol.
Canllawiau Gwella Ysgolion a disgwyliadau.
Dysgu proffesiynol cydweithredol.
Gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol.
Datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i werthuso effaith, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chefnogi gwelliannau trwy wneud penderfyniadau gwybodus.
Mesur effaith.
Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Atebolrwydd a llywodraethu.
Gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi gwelliant.
Dathlu a rhannu dysgu o’r Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth wrth fyfyrio ar ddatblygu arweinyddiaeth a chynnydd yn y dyfodol.
Cyflwyno’r Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth.
Myfyrio ar dwf arweinyddiaeth.
Rhannu effaith ac ymarfer effeithiol.
Cynllunio’r camau nesaf ar gyfer datblygiad parhaus.
Nodwedd ganolog o’r rhaglen yw’r Prosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth.
Mae’r cyfranogwyr yn nodi ac yn arwain prosiect gwella sydd wedi’i gysylltu â blaenoriaeth yn eu hysgol neu leoliad. Drwy ymholiadau, casglu tystiolaeth a myfyrio, mae’r cyfranogwyr yn gwerthuso effaith ac yn datblygu profiad arweinyddiaeth ymarferol wrth gyfrannu at welliannau ystyrlon.
Mae’r prosiect yn darparu cyfle i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn uniongyrchol yn eu hymarfer a dangos dylanwad arweinyddiaeth mewn cyd-destun byd go iawn.
Dyluniwyd y Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol ar gyfer ymarferwyr sy’n ymgymryd â rôl arweinwyr canol ar hyn o bryd mewn ysgolion a lleoliadau ar hyd a lled Cymru.
Mae hyn yn cynnwys arweinwyr pwnc, arweinwyr cyfnod, arweinwyr bugeiliol ac aelodau eraill o staff sy’n gyfrifol am arwain timau, gwella addysgu a dysgu, neu ysgogi blaenoriaethau gwella.
Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer arweinwyr sy’n dymuno atgyfnerthu eu hymarfer arweinyddiaeth, datblygu dealltwriaeth strategol well a pharatoi ar gyfer cyfleoedd arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Dylai cyfranogwyr allu ymgymryd â Phrosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth sydd wedi’i gysylltu â blaenoriaeth gwella a nodwyd ac ymrwymo’n llawn i’r rhaglen ar hyd y flwyddyn academaidd.
Rheolir ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol drwy Dysgu a bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau yn agor yn ystod Tymor Gwanwyn 2027.
Dylai ymgeiswyr fod yn gweithio mewn rôl arweinydd canol gydnabyddedig a bod ganddynt fynediad at flaenoriaeth gwella ysgol neu leoliad y gellir ei harchwilio drwy Brosiect Ymholiad Profiad Arweinyddiaeth. Disgwylir cefnogaeth gan ysgol, leoliad neu bennaeth y cyfranogwr lle y bo’n briodol.
Bydd cyfranogwyr llwyddiannus yn ymrwymo i fynychu sesiynau’r rhaglen, ymgysylltu’n llawn mewn gweithgarwch grŵp POD a chwblhau eu prosiect ymholi.
Cyhoeddir gwybodaeth am ddyddiadau gwneud cais, meini prawf cymhwystra, amserlenni’r rhaglen a chanllawiau drwy wefan Dysgu a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol pan fydd y cyfnod recriwtio yn agor.