Drwy gymryd rhan yn Dosbarth Braf, Meddyliau Bywiog, byddwch yn:
datblygu hyder a hunan-effeithiolrwydd yn yr ystafell ddosbarth
sicrhau dulliau gweithredu ymarferol ar gyfer rheoli ymddygiad a lles
cynyddu eich gwybodaeth am ddatblygiad, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl plant
cysylltu â chymheiriaid ledled Cymru a siapio rhaglen genedlaethol
Mae hyn yn fwy na hyfforddiant; mae’n gyfle i fuddsoddi yn eich twf proffesiynol chi a helpu i siapio menter lles sy’n edrych i’r dyfodol.
Cynhelir y rhaglen dros 12 wythnos (Ionawr i Ebrill 2027) ac mae’n cynnwys:
sesiynau dysgu wyneb yn wyneb
modiwlau hunan-gyfeiriedig ar-lein
trafodaethau cymorth cymheiriaid ar-lein
amser i fyfyrio ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth
Mae holl gynnwys y rhaglen ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch yn rhan o garfan o rhwng 60 i 80 o addysgwyr o bob cwr o Gymru. Bydd grwpiau yn cael eu dyrannu yn ôl rôl, rhanbarth a dewis iaith.
Rydym yn derbyn cyfranogwyr ar sail y cyntaf i gofrestru sy’n cael y flaenoriaeth. Byddwn yn sicrhau y bydd addysgwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cynrychioli.
Grŵp | Dyddiadau Wyneb yn Wyneb | Lleoliad | Cymorth cymheiriaid 1 - ar-lein | Cymorth cymheiriaid 2 - ar-lein | Dyddiad Wyneb yn Wyneb |
Athrawon (Gan gynnwys ANG a Gyrfa Gynnar) | 12 i 13 Ionawr | Caerdydd | 10 Chwefror | 9 Mawrth | 14 Ebrill |
Cynorthwywyr Addysgu | 12 i 13 Ionawr | Abertawe | 10 Chwefror | 9 Mawrth | 14 Ebrill |
Cyfrwng Cymraeg (staff Cymysg) | 12 i 13 Ionawr | Gogledd Cymru | 10 Chwefror | 9 Mawrth | 14 Ebrill |
Arweinwyr (gan gynnwys CADY) | 19 i 20 Ionawr | Casnewydd | 17 Chwefror | 16 Mawrth | 15 Ebrill |
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £1,050 fesul cyfranogwr i dalu’r holl gostau. Mae hyn yn cynnwys:
darpariaeth llanw
teithio
llety
Bydd y ffi sefydlog o £1,050 ar gael yn ystod y cam ail garfan hwn yn unig. Felly, mae’n gyfle unigryw i helpu i siapio menter lles genedlaethol.
Dim ond un cyfranogwr fesul ysgol all ymuno â’r rhaglen.
Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn oni fydd argyfwng yn codi.
Bydd cyfranogwyr yn cyfrannu at werthusiad annibynnol drwy adborth a chyfweliadau dewisol.
Cofrestrwch ar-lein erbyn 18 Tachwedd 2026.
Os bydd gennych gwestiynau cyn cofrestru, cysylltwch â: post@dysgu.llyw.cymru
Mae’r rhaglen hon yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag Education Support ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Dysgu.