Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg o'r rhaglen

  • Hyd: amrywiol

  • Lleoliad: dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein

  • Cynulleidfa: athrawon yng nghamau cynnar eu gyrfa

Trosolwg

Mae’r llwybr Athrawon Gyrfa Gynnar yn cefnogi athrawon yn ystod pum mlynedd gyntaf eu hymarfer proffesiynol. Mae'n darparu cyfleoedd strwythuredig ar gyfer myfyrio, cydweithio a thwf proffesiynol, gan helpu athrawon i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr.

Wedi’i alinio â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, mae’r llwybr yn cydnabod y cyfleoedd a’r heriau unigryw a brofir gan athrawon wrth iddyn nhw sefydlu a mireinio eu hymarfer. Drwy ddysgu proffesiynol, rhwydweithiau cyfoedion a mynediad at adnoddau o ansawdd uchel, mae cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i atgyfnerthu eu haddysgeg, gwella ymgysylltiad y dysgwr a datblygu gyrfaoedd cynaliadwy, boddhaus ym myd addysg.

Cynnwys y rhaglen

Mae Dysgu wedi gwahodd Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ddatblygu a darparu rhaglenni dysgu proffesiynol i Athrawon Gyrfa Gynnar. Cynlluniwyd y cynlluniau peilot hyn i archwilio dulliau arloesol ac ymatebol i gefnogi athrawon yn ystod camau cynnar eu gyrfa, gan gydnabod cyd-destunau ac anghenion gwahanol ysgolion, lleoliadau a chymunedau lleol.

Mae’r cynlluniau peilot yn darparu cyfleoedd i Athrawon Gyrfa Gynnar ymgysylltu mewn dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, cydweithio â chyfoedion, myfyrio ar eu hymarfer a chryfhau eu dealltwriaeth o addysgu effeithiol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd dysgu o’r rhaglenni hyn yn helpu i siapio a hysbysu cyfleoedd dysgu proffesiynol cenedlaethol yn y dyfodol i Athrawon Gyrfa Gynnar, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau i gyflawni anghenion ymarferwyr ledled Cymru.

Meysydd dysgu allweddol

Oherwydd bod rhaglenni’n cael eu dylunio’n lleol, gall y cynnwys amrywio. Gallai meysydd ffocws gynnwys:

  • addysgeg ac ymarfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth

  • cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru

  • asesiad a chynnydd

  • dulliau addysgu cynhwysol a chyfartal

  • ymholiadau ac ymarfer myfyriol proffesiynol

  • llesiant a gwytnwch athrawon

  • hunaniaeth broffesiynol a datblygiad gyrfa

  • cydweithio a rhwydweithio proffesiynol

Fformat

Pennir y modelau cyflenwi gan yr Awdurdodau Lleol sy’n cymryd rhan a gallant gynnwys:

  • gweithdai wyneb yn wyneb

  • sesiynau dysgu ar-lein

  • rhaglenni dysgu cyfunol

  • cymunedau dysgu proffesiynol

  • cymunedau ymarfer

  • cyfleoedd mentora a hyfforddi

  • dysgu proffesiynol hunan-gyfeiriedig

Hyd

Mae hyd rhaglen yn amrywio yn ôl darpariaeth beilot yr Awdurdod Lleol. Disgwylir i’r rhan fwyaf o raglenni gael eu cynnal ar hyd blwyddyn academaidd neu fel cyfres o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol cysylltiedig.

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen hon

Mae’r cynnig dysgu proffesiynol hwn wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer athrawon yng nghamau cynnar eu gyrfa, gan gynnwys y rhai sy’n cwblhau cyfnod sefydlu statudol a’r rhai sydd ym mlynyddoedd cyntaf eu hymarfer addysgu.

Mae’r llwybr yn addas i ymarferwyr sy’n gweithio ar draws lleoliadau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru. Gallai hefyd fod yn berthnasol i fentoriaid ac arweinwyr ysgol sy’n cefnogi datblygiad Athrawon Gyrfa Gynnar.

Dylai bod y cyfranogwyr yn cael eu cyflogi mewn lleoliad addysgol yng Nghymru a bod ganddynt fynediad at gefnogaeth briodol yn yr ysgol, lle y bo’n berthnasol.

Rhagor o wybodaeth

Gall Athrawon Gyrfa Gynnar gael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol drwy Dysgu a rhaglenni partner sy’n cael eu cyflenwi ledled Cymru.

Cyhoeddir gwybodaeth am y carfannau nesaf, cyfleoedd dysgu proffesiynol, digwyddiadau ac adnoddau drwy Dysgu a Hwb. Mae’n bosibl y bydd rhai cyfleoedd ar gael drwy gofrestru'n uniongyrchol, ac efallai y gellir cydlynu eraill drwy ysgolion, Awdurdodau Lleol neu bartneriaid rhanbarthol.

Anogir ymarferwyr i drafod eu nodau dysgu proffesiynol gyda’u mentor, tiwtor sefydlu neu reolwr llinell a nodi cyfleoedd sy’n alinio â’u hanghenion datblygu a’u dyheadau gyrfa.

Cyhoeddir gwybodaeth am argaeledd rhaglenni, trefniadau cofrestru a meini prawf cymhwystra wrth i gyfleoedd ddod ar gael.