Teams yw meddalwedd gydweithredu Microsoft. Mae'n caniatáu ichi ddod â sgyrsiau, cynnwys, aseiniadau ac apiau at ei gilydd mewn un lle.
Gallwch ddefnyddio Teams i:
adeiladu ystafelloedd dosbarth cydweithredol
cysylltu fel cymunedau dysgu proffesiynol
rheoli adrannau staff
Mae Microsoft Teams yn dod â Microsoft 365 for Education i un safle digidol. Gallwch ddefnyddio Microsoft Teams i ffrydio gwersi yn fyw ac ar gyfer fideo-gynadledda.
Os ydych yn bwriadu defnyddio Teams gyda dysgwyr, darllenwch ein canllawiau ar Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr addysg.
Gall staff ysgol neu weinyddwyr Hwb greu tîm Microsoft Class ar gyfer dosbarthiadau sydd ar yr amserlen yn System Gwybodaeth Reoli ysgol.
Mewngofnodwch i Hwb a dewos Rheoli Defnyddwyr.
Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
Cliciwch ar Ychwanegu Microsoft Class Team + i greu tîm Microsoft Class.
Gall gymryd hyd at 3 awr i'ch dosbarth gael ei greu, â'r cyfrifon staff a dysgwyr cywir a llawn. Ar ôl i'r tîm gael ei greu, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.
Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein rhithwir, rhaid ichi ychwanegu ymarferydd addysg arall bob amser, at ddibenion diogelu.
Mae'n bwysig bod perchennog y tîm yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a thynnu aelodau staff eraill fel y bo'n briodol.
Mae gan weinyddwyr Hwb yr opsiwn i'w hychwanegu eu hunain fel cydberchnogion tîm Microsoft Class sydd eisoes wedi'i lenwi.
Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol. Dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
Cliciwch ar Ychwanegu Perchennog, yna Iawn.
Gall perchennog tîm hefyd ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn ap Teams.
Gall gweinyddwyr Hwb adfer tîm Microsoft Class o'r Porth Rheoli Defnyddwyr os cafodd ei ddileu yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. Bydd hyn yn adfer y tîm yn union fel ag yr oedd cyn ei ddileu, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.
Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
Cliciwch ar Rheoli Microsoft Class Team.
Cliciwch ar Adfer, yna Iawn.
Gall adfer tîm gymryd hyd at 48 awr.
Os dilewyd tîm dros 30 diwrnod yn ôl, yna ni ellir ei adfer. Rhaid ei ail-greu gan ddefnyddio'r un broses ag a ddilynwyd i gychwyn.
Bydd ail-greu tîm yn adeiladu'r tîm o'r dechrau'n deg. Ni ellir adfer unrhyw ffeiliau, dogfennau, aseiniadau na newidiadau i aelodaeth neu enw.
Mae'r holl dimau a grewyd drwy'r Porthol Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Gall gweinyddwyr a staff Hwb adfer y timau a archifwyd, o flwyddyn academaidd flaenorol, drwy ddilyn y camau syml isod:
Mewngofnodi i Hwb a dewis Rheoli defnyddwyr.
Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd. Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp hwnnw
Cliciwch Adfer Microsoft Team.
Bydd y tîm a adferwyd yn ymddangos yn yr adran timau cudd.
Agorwch Microsoft Teams.
Dewiswch Timau o'r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Ehangwch Timau (cliciwch y saeth at i lawr).
Cliciwch ar yr adran Cudd.
Ni fydd unrhyw dîm a gafodd ei adfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.
Er bod y broses adfer yn dipyn cyflymach fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y tîm eto.
Mae cyrsiau am ddim ar gael i addysgwyr yng nghanolfan Addysgwyr Microsoft Learn
Mae'r ap hwn yn caniatáu i ddysgwyr rannu a chael eu clywed. Gall Reflect helpu i ehangu geirfa emosiynol dysgwyr a dyfnhau empathi tuag at eu cyfoedion. Gall hefyd ddarparu adborth i ymarferwyr er mwyn creu cymuned iach yn yr ystafell ddosbarth.
Mae Reflect yn caniatáu i ddysgwyr fynegi eu teimladau mewn ffordd ddiddorol a chwareus. Mae'n cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Gall ategu dull eich ysgol o ofalu am les dysgwyr.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio Reflect yn Teams ar wefan Microsoft Support.