Mae Reflect yn offeryn lles digidol. Mae'n caniatáu i ymarferwyr greu gwiriadau lle gall dysgwyr fynegi sut maen nhw'n teimlo mewn ffordd ddiogel a chefnogol . Gall yr wybodaeth hon helpu i lywio cymorth lles. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio Reflect ar wefan Microsoft.
Gellir cael mynediad at Reflect mewn sawl ffordd:
Ewch i wefan Reflect a dewiswch Get Started yn y dde uchaf. Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion Hwb.
Os ydych chi'n defnyddio dyfais Windows, lawrlwythwch yr ap Reflect o'r Microsoft Store a mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion Hwb.
Microsoft teams classes
Cliciwch ar y tab Reflect ar y chwith yn Microsoft Teams Classes.
O fewn Class Notebook yn Microsoft Teams Classes, dewiswch y tab Class Notebook a chliciwch ar Reflect o'r rhuban ar hyd brig y dudalen.
Wrth greu aseiniadau unigol o fewn Microsoft Teams Classes, pwyswch On ar y gwiriad Reflect.
Gall ymarferwyr lawrlwytho ac argraffu fersiwn Bwrdd Emosiwn o'r gwiriad llesiant Reflect. Yna gallant gymryd llun o'r bwrdd emosiwn gyda dyfais camera a'i lanlwytho i Teams.
Drwy wneud hyn bydd modd storio ymatebion yn ddigidol. Yna gall ymarferwyr olrhain yr ymatebion dros amser.
Mae Reflect ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallwch newid yr iaith ar wefan Reflect:
cliciwch ar eich llun proffil neu lythrennau cyntaf eich enw sydd i'w gweld ar frig ochr dde y sgrin
cliciwch yr iaith sydd ei hangen arnoch
Os ydych wedi gosod y Gymraeg fel eich dewis iaith yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, bydd Reflect yn Teams ac yn Class Notebook yn ymddangos yn Gymraeg.
Trwy ddefnyddio cymeriadau i gynrychioli emosiynau gwahanol, mae Reflect yn darparu ffordd ddifyr a hygyrch i ddysgwyr fynegi sut maen nhw'n teimlo.
Mae'n helpu i ddatblygu a deall geirfa am emosiynau.
Mae'n darparu gwybodaeth o wiriadau er mwyn llywio cymorth lles i unigolion a dosbarthiadau cyfan.
Mae'n darparu adnoddau lles i ddysgwyr o bob oedran, megis:
ymarferion myfyrdod
gweithgareddau symud
gemau
cerddoriaeth
podlediadau
straeon
Pan gaiff ei ddefnyddio fel rhan o aseiniad, mae Reflect yn galluogi ymarferwyr i ddeall teimladau dysgwyr am ddarnau o waith maen nhw wedi'u cwblhau.
Sicrhau bod y defnydd o Reflect yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol, fel
o diogelu
Lles
llythrennedd digidol
diogelwch ar-lein
defnydd derbyniol
diogelu data
Cyn rhannu ymatebion gyda dosbarth, ystyriwch alluogi'r opsiwn i guddio enwau dysgwyr. Byddai hynny yn helpu i sicrhau preifatrwydd ac o bosib yn annog ymatebion mwy agored a gonest.
Gall ymarferwyr reoli pwy sy'n cael ei wahodd i ymateb i wiriadau a'r hyn y gallant ei weld.
Gall ymarferwyr weld canlyniadau gwiriadau wedi'u gosod mewn Teams Class neu Class Notebook yn Education Insights. Gallant hefyd adolygu tueddiadau dros amser. Dim ond perchnogion dosbarthiadau all weld adroddiadau Reflect, a byddant ddim ond yn cynnwys gweithgareddau o fewn Microsoft Teams.
Ar wefan Reflect, gall ymarferwyr weld canlyniadau gwiriadau yn y tab Check-ins. Gallant weld tueddiadau dros amser yn y tab Trends.
Ni fydd dysgwyr yn gweld unrhyw beth heblaw am eu hymatebion eu hunain yn Reflect. Os yw'r ymarferydd yn dewis ‘share aggregated results with respondents’ bydd dysgwyr hefyd yn gweld faint o'u cyfoedion sydd wedi dewis ymateb penodol, ond ni fyddant yn gweld pwy sydd wedi ei gyflwyno.
Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data cyfredol neu a oes angen un newydd.
Mae data yn cael eu prosesu o fewn gwasanaeth Microsoft 365 Education ac wedi'u diogelu gan reolaethau diogelwch, preifatrwydd a chydymffurfiaeth Enterprise. Mae Microsoft yn gweithredu fel prosesydd data o dan amodau Microsoft Products and Services Data Protection Addendum, tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer ei defnydd o Reflect.