Mae Maths Progress yn un o adnoddau Cyflymu Dysgu Microsoft (Microsoft Learning Accelerators) o fewn Microsoft Teams for Education. Mae'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau mathemateg ac yn galluogi ymarferwyr i ddilyn eu cynnydd. Gall Maths Progress helpu ymarferwyr i wneud y canlynol:
creu aseiniadau mathemateg
creu cwestiynau ymarfer
adolygu atebion dysgwyr
defnyddio’r wybodaeth a ddysgir i adnabod cryfderau, bylchau a chamsyniadau
Modiwl Learn Microsoft 'Support building mathematics skills with Maths Progress' yn egluro sut i ddechrau arni. Mae'n rhoi sylw i’r canlynol:
creu aseiniadau
adolygu gwaith dysgwyr
defnyddio’r wybodaeth a ddysgir i gefnogi addysgu a dysgu
Mae Maths Progress ar gael ar Microsoft Teams for Education gan ddefnyddio eich cyfrif Hwb Microsoft 365.
I greu aseiniad Maths Progress:
Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar Teams ar ddangosfwrdd Hwb neu agorwch yr ap Microsoft Teams.
Agorwch y Dosbarth Teams perthnasol.
Ewch i Assignments.
Gwasgwch Create.
Gwasgwch New assignment, yna Learning Accelerators, yna Maths Progress.
Mae Microsoft Teams ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch newid eich gosodiadau iaith yn Teams.
Mae’n cynnig cyfleoedd i ymarfer yn annibynnol ac â phwrpas clir.
Mae’n cynnig adborth ar atebion ac yn caniatáu i ddysgwyr ddweud a yw cwestiwn yn teimlo'n hawdd, yn anodd neu'n addas.
Os yw ymarferydd yn galluogi 'Show Your Work', gall dysgwyr lwytho delweddau o'u gwaith neu rannu dolenni i dudalennau OneNote.
Mae’n creu gweithgareddau ac asesiadau mathemateg yn gyflym gyda’i nodwedd cynhyrchu cwestiynau.
Mae’n helpu i ganfod camsyniadau a bylchau yn nealltwriaeth y dysgwr trwy farcio a dadansoddi awtomataidd.
Mae’n gwella dealltwriaeth o berfformiad unigolion a pherfformiad y dosbarth. Gall ymarferwyr ddefnyddio'r wybodaeth i gefnogi ymyrraeth wedi'i dargedu ac i fesur cynnydd dros amser.
Mae’n cefnogi asesiadau ffurfiannol trwy helpu ymarferwyr i ddeall lefel dealltwriaeth dysgwyr ar y pryd.
Mae Maths Progress yn defnyddio AI i gynhyrchu cwestiynau mathemateg ac atebion posibl yn seiliedig ar bynciau dethol. Gallwch adolygu a golygu cwestiynau sy’n cael eu cynhyrchu gan AI cyn iddyn nhw gael eu rhoi i ddysgwyr.
Dylech sicrhau bod eich defnydd o Maths Progress yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol, megis diogelu, llythrennedd digidol, mathemateg a rhifedd, defnydd derbyniol a diogelu data.
Dylai ymarferwyr adolygu’r cwestiynau sy’n cael eu cynhyrchu gan AI i sicrhau cywirdeb a phriodoldeb cyn eu rhoi i ddysgwyr. Gall ymarferwyr olygu’r problemau sy’n cael eu cynhyrchu a chreu eu cwestiynau eu hunain lle bo angen.
Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen Asesiad DPIA newydd.
Mae Maths Progress yn prosesu data aseiniadau, asesu a chynnydd i helpu ymarferwyr i raddio, i olrhain cynnydd dysgwyr ac i ennill dealltwriaeth.
Gall ymarferwyr alluogi'r nodwedd 'Show your work' a chaniatáu i ddysgwyr lwytho delweddau neu rannu dolenni i dudalennau OneNote i ddangos eu gwaith. Mae Microsoft yn nodi nad yw Microsoft Teams Education yn dadansoddi’r delweddau sy’n cael eu llwytho trwy ‘Show Your Work’, ac mai dim ond er mwyn i ymarferwyr eu hadolygu y maent ar gael.
Caiff data ei brosesu o fewn gwasanaeth Microsoft 365 Education a’i ddiogelu gan reolaethau diogelwch, preifatrwydd a chydymffurfiaeth menter. Mae Microsoft yn gweithredu fel prosesydd data o dan Atodiad Diogelu Data Cynhyrchion a Gwasanaethau Microsoft, tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer ei defnydd o Maths Progress.