Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio adnoddau a chynhyrchion Microsoft ar wefan Microsoft.
Mae'r rhaglenni (neu'r 'apiau gwe') yn rhedeg yn eich porwr gyda rhyngwyneb defnyddiwr penodol a llawer o ryngweithio â'r defnyddiwr. Er enghraifft ceir:
gemau
rhaglenni golygu lluniau
chwaraewyr fideo
Nid yw'r cyfleuster 'mewngofnodi' ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni ar hyn o bryd.
Gellir gwneud cais am fynediad at Raglenni Gwe 3ydd Parti fesul defnyddiwr, ysgol neu awdurdod lleol drwy Ddesg Wasanaeth Hwb.
Nid yw defnyddwyr yn gallu gosod na rheoli ychwanegiadau o Microsoft 365 Store ar denant Hwb.
Mae Ychwanegiadau Microsoft Outlook yn eich helpu i gyflymu'r ffordd rydych yn cael gwybodaeth ar y we. Er enghraifft, mae ychwanegiad 'Bing Maps' yn ymddangos mewn e-bost sy'n cynnwys cyfeiriad a gallwch ei ddefnyddio i chwilio am y lleoliad ar y map ar-lein yn syth o'ch e-bost.
Gellir gosod ychwanegiadau fesul defnyddiwr yn Outlook. Gall defnyddwyr:
osod apiau darllen ac ysgrifennu ac apiau caniatâd mewnflwch yn eu mewnflwch unigol
osod a rheoli ychwanegiadau o'r Microsoft 365 Store at eu defnydd eu hunain
osod a rheoli ychwanegiadau pwrpasol at eu defnydd eu hunain
Ni all defnyddwyr fewngofnodi i'r Microsoft Store gyda'u henw defnyddiwr a'u cyfrinair ar gyfer Hwb.
Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
Cliciwch ar Manage add-ins.
Porwch drwy'r ychwanegiadau yn y rhestr neu chwiliwch am ychwanegiad penodol drwy deipio yn y blwch Search add-ins.
Ar ôl ichi ddewis ychwanegiad, cliciwch ar y botwm glas Add.
Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i raglen Outlook yn Microsoft 365.
Cliciwch ar 'olwyn gocos' Settings (yng nghornel dde uchaf y porwr).
Cliciwch ar Manage add-ins.
Cliciwch ar My add-ins (o'r opsiynau ar ochr chwith y ffenestr).
Cliciwch ar y … ar yr ychwanegiad priodol: Cliciwch ar Remove.
Mae'r rheolaeth hon wedi'i dirprwyo i'r awdurdod lleol neu bwy bynnag sy'n rheoli eich dyfais. Cysylltwch â'ch adran cymorth TG yn yr ysgol neu'r awdurdod lleol i gael cymorth. Gall defnyddwyr sy'n rheoli eu hapiau Microsoft 365 eu hunain ar eu dyfeisiau ddilyn y camau hyn i newid y gosodiadau iaith.
I newid iaith Microsoft 365 i'r Gymraeg, mae angen ichi osod y Pecyn Iaith Ategol ar gyfer Microsoft 365 o wefan Microsoft.
I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb.