Mae trwydded ychwanegol Teaching and Learning yn ymestyn yr hyn y gellir ei gyflawni drwy Google Workspace for Education Fundamentals sydd ar gael drwy Hwb. Mae'n cynnwys ystod o nodweddion a all helpu ysgolion i gyfathrebu'n well, cefnogi cydweithio, symleiddio arferion asesu, a gwella profiadau addysgu a dysgu.
Mwy o gapasiti a nodweddion lefel uwch yn Google Meet. Mae'r rhain yn cynnwys:
arbed recordiadau o gyfarfodydd i Google Drive
olrhain presenoldeb
darpariaeth holi ac ateb
gweld nodiadau siarad i gyd-fynd â sleidiau wrth gyflwyno
cyfieithu testun yn fyw
galluogi hyd at 250 o unigolion i gymryd rhan mewn sesiwn, a 10,000 i wylio ar ffrwd fyw
100 GB ychwanegol o storfa Google Drive ar gyfer pob aelod o staff trwyddedig
Adroddiadau gwreiddioldeb diderfyn, gan gynnwys y gallu i gymharu gwaith dysgwyr â storfa breifat o waith blaenorol.
Neilltuo cwestiynau rhyngweithiol ar gyfer fideos YouTube, gan roi adborth mewn amser real i ddysgwyr wrth iddynt symud drwy wers, a chan fonitro eu cynnydd, i gyd o fewn Classroom.
Setiau ymarfer i drawsnewid cynnwys yn aseiniadau rhyngweithiol, gan ddarparu cymorth awtomatig a chyfleoedd adborth.
Integreiddio nodweddion Gemini ar draws apiau Google Workspace, gan gynnwys:
Google Docs: i helpu i ysgrifennu a dogfennu crynodebau
Google Sheets: i helpu i greu fformiwlâu, trefnu data a mwy
Google Slides: i ddod â chyflwyniadau yn fyw â delweddau a dyluniadau gwreiddiol
Google Vids: i greu fideos o gyflwyniadau, trosleisio AI, defnyddio rhithffurfiau AI a chreu delweddau
Google Forms: i greu cwestiynau a chrynhoi ymatebion
Hyd at 100 o lyfrau nodiadau ychwanegol, a 50 o ffynonellau ychwanegol i bob un
150 o ymholiadau sgwrsio dyddiol ychwanegol
Terfynau uwch ar gyfer trosolwg sain, cardiau fflach, cwisiau a chreu asiantau.
Am fanylion llawn y nodweddion sydd wedi'u cynnwys, ewch i dudalen Teaching and Learning add-on Google.
I gymharu nodweddion ar draws fersiynau Google Workspace for Education, gweler tudalen cymharu cynlluniau addysg Google. Mae'r manteision sydd wedi'u cynnwys yn nhrwydded ychwanegol Teaching and Learning yn cyd-fynd â'r nodweddion a restrir o dan fersiwn Education Plus.
Mae Google yn cynnig llwybr hyfforddi y gellir ei ddilyn yn annibynnol yn ôl amserlen yr unigolyn , ac mae'r cwrs hwn hefyd yn cyflwyno ymarferwyr i'r nodweddion ychwanegol sydd ar gael drwy Google Workspace.
Gall ysgolion brynu trwyddedau ychwanegol Teaching and Learning drwy eu hawdurdod lleol.
Mae 2 ffenestr brynu flynyddol: mae un yn cau ar 31 Gorffennaf, a'r llall yn cau ar 31 Hydref.
Bydd unrhyw drwyddedau a brynir ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd. Bydd manylion y trwyddedau a brynir yn ffenestr mis Hydref yn cael eu pennu ar sail pro-rata, o ran cost a hyd.
Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd nesaf.
Gall gweinyddwyr Hwb ddyrannu trwyddedau i gyfrifon unrhyw staff System Gwybodaeth Reoli yn y Porth Rheoli Defnyddwyr. Mae'r rhain wedi'u rhestru o dan Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff.
1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar Rheoli Defnyddwyr.
2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded T&L Google.
3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol, e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
4. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.
Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr hwnnw.
1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar Rheoli Defnyddwyr.
2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded T&L Google.
3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Cliciwch ar bob un o'r blychau ticio ar ochr chwith yr aelodau staff perthnasol.
4. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded ar frig y rhestr.
Gall gymryd hyd at awr i roi trwydded i'r defnyddiwr/defnyddwyr.
Gall gweinyddwyr Hwb fynd ati i ddileu trwydded:
1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar Rheoli Defnyddwyr.
2. Ar eich 'Dangosfwrdd Gweinyddwyr' cliciwch ar Gweinyddiaeth: Rheoli Trwydded T&L Google.
3. Fe gewch olwg gyffredinol ar y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu i'ch ysgol, ynghyd â blwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol, e.e. teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
4. Cliciwch ar Dirymu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.
Gall gymryd hyd at awr i'r drwydded gael ei dileu, ac yna i fod ar gael i'w hailddyrannu i ddefnyddiwr arall.
Mae pob trwydded yn parhau i fod yn ddilys hyd ddiwedd blwyddyn academaidd. Cânt eu dirymu'n awtomatig ar 31 Awst. Rhaid i weinyddwyr Hwb ysgolion gynllunio i ddyrannu trwyddedau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
Caiff trwyddedau eu dileu'n awtomatig o gyfrifon sydd wedi'u dirwyn i ben, a byddant ar gael wedyn i'w hailddyrannu yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.