Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Croeso i'r Hwb newydd

Mae'r platfform newydd a gwell yn ganlyniad i ymchwil ac adborth gan athrawon, dysgwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill ynghylch y ffordd orau y gallwn gefnogi dyfodol addysg yng Nghymru. Yn gyntaf, mae eich cyfrif Hwb yr un fath, sy'n golygu y gallwch gael mynediad at yr un cynnwys ac offer â'r blaen a'u defnyddio.

Manteision y platfform newydd

  • Haws dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch: Bydd llywio gwell ac arwyddion cliriach yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i offer, canllawiau, adnoddau a chymorth yn gyflymach.

  • Profiad cliriach a mwy greddfol: Mae strwythur y platfform wedi'i fireinio er mwyn gwneud y broses o lywio drwyddo yn symlach ac yn fwy rhesymegol.

  • Gwell mynediad at wasanaethau allweddol: Bydd gan ddefnyddwyr lwybrau cliriach at y gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio amlaf, gan gynnwys offer cyfarwydd ac ardaloedd cymorth.

A dim ond y dechrau yw hynny. Nesaf, byddwn yn cyflwyno:

  • ‘fy ffefrynnau’ – nodwedd sy'n eich galluogi i dagio ac addasu'r adnoddau, canllawiau, cynnwys ac apiau sydd bwysicaf i chi

  • hysbysiadau mwy personol a defnyddiol

  • gwybodaeth a chymorth i rieni a gofalwyr

Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio'r platfform newydd. Anfonwch eich adborth a'ch syniadau atom i'n helpu i barhau i wella Hwb.