Apiau: gallwch weld mwy o'ch apiau yn syth o'ch dangosfwrdd (y dudalen rydych chi'n ei gweld pan fyddwch yn mewngofnodi).
Cynnwys: Fe welwch gynnwys ar eich dangosfwrdd y credwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.
Adnoddau: gallwch gael mynediad at wahanol lyfrgelloedd yn syth o'ch dangosfwrdd.
Ond mae mwy i ddod. Cyn bo hir, byddwn hefyd yn cyflwyno:
‘fy ffefrynnau’ i'ch helpu i gadw eich hoff apiau a chynnwys yn eich proffil
hysbysiadau newydd i roi gwybod i chi pan fydd rhywbeth i'w weld neu ei wneud
rhagor o lyfrgelloedd cynnwys i chi chwilio ynddynt a'u defnyddio
Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio'r platfform newydd. Anfonwch eich adborth a'ch syniadau atom i'n helpu i wneud Hwb hyd yn oed yn well i chi.