Poster a thaflen sy’n tynnu sylw at y gefnogaeth ar-lein sydd ar gael i helpu ysgolion a phobl ifanc i aros yn ddiogel, yn hyderus ac yn rymus ar-lein.
Mae’r wers hon ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 6 yn canolbwyntio ar strwythur erthyglau newyddion ar-lein a’r pethau i gadw llygad amdanynt wrth ddarllen tudalennau newyddion ar-lein.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu beth mae diogelwch ar-lein yn ei olygu, ac yn cael gwybod am eich rôl bwysig yn cadw dysgwyr yn ddiogel.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu beth mae diogelwch ar-lein yn ei olygu, ac yn cael gwybod am eich rôl bwysig yn cadw dysgwyr yn ddiogel.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 7 i fyfyrio ar ba wybodaeth sydd yn ddiogel i'w rhannu gyda gwahanol fathau o ffrindiau ar-lein.
Mae'r pecyn cymorth diogelwch ar-lein hwn yn cefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar gyda'u defnydd o dechnoleg bob dydd. Ei nod yw annog dealltwriaeth o sut y gellid cynorthwyo plant i ddefnyddio technoleg yn ddiogel ac yn gyfrifol, a hyrwyddo arfer da ar gyfer cadw plant yn ddiogel.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 9 deall beth i wneud pan fyddan nhw'n gweld iaith casineb ar-lein.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 12 i ddadansoddi sut gall gweithredu'n ddifeddwl ar-lein achosi seiberfwlio a thrafod ffyrdd o herio hyn.
Nod y modiwl ar-lein hwn yw helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddeall sut i atal neu ymateb i unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn eu hysgol neu leoliad.
Taflen a fideo ategol yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd gadw'n ddiogel ar-lein.
Mae'r cyflwyniadau hyn yn helpu dysgwyr i ddeall eu hawliau a sut maen nhw'n berthnasol ar-lein. Bydd dysgwyr yn archwilio enghreifftiau o hawliau plant, sut mae'r hawliau hyn yn berthnasol ar-lein, ac yn ystyried yr heriau o arfer eu hawliau mewn amgylchedd ar-lein.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 7 myfyrio ar y ffyrdd maent yn cyflwyno eu hun ar-lein ac adnabod canlyniadau posibl postio o gyfrif cyfrwng cymdeithasol ffug.
Mae'r adnodd hwn yn cefnogi ymarferwyr i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith cyfoedion 9 i 12 oed, mewn ffordd sensitif sy'n briodol i'w hoedran. Mae'n cynnwys ffilm fer a thaflenni i rieni a gofalwyr, er mwyn helpu i agor sgyrsiau, meithrin dealltwriaeth, a hyrwyddo ymddygiad ar-lein mwy diogel ymhlith plant a'u teuluoedd.
Gall yr adnodd hwn helpu dysgwyr i ddiffinio enw da digidol ac adnabod enghreifftiau o bostiadau cyfryngau cymdeithasol a all gael effaith gadarnhaol neu negyddol. Addas ar gyfer cam Cynnydd 3.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys templedi unigol i chi eu lawrlwytho a'u llenwi. Maent yn gytundebau defnydd derbyniol (AUAs) y dylid eu diwygio i ddiwallu anghenion pob darpariaeth.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 11 i ddadansoddi sut mae'r rhyngrwyd wedi cyfrannu at gynnydd mewn iaith casineb a safbwyntiau eithafol.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 5 i ddeall eu cyfrifoldebau dros eu holion troed digidol eu hunain a rhai pobl eraill.
Ffeil PDF sy'n cynnwys awgrymiadau da i rieni/gofalwyr sy'n helpu dysgwyr gyda dysgu ar-lein yn Hwb
Deunyddiau archif o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n ymwneud â Dylan Thomas.
Gall y wers hon helpu dysgwyr Blwyddyn 13 i feddwl am bwysigrwydd parch at bobl eraill a rhyddid barn.