Adnodd
4 Tachwedd 2025
Adnoddau Wythnos Gwrth-Fwlio 2025
Nod Wythnos Gwrth-Fwlio yw codi ymwybyddiaeth am fwlio plant a phobl ifanc, gan dynnu sylw at sut y gall pawb gyfrannu at ei atal ac ymateb iddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â'r Anti-Bullying Alliance i ddarparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae'r deunyddiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda phecyn ychwanegol i helpu i ddathlu Diwrnod Sanau Od.