Cyfres o lyfrau darllen cyfrwng Cymraeg gan Prosiect X. Maen nhw'n addas ar gyfer ddysgwyr ar gyfer Camau cynnydd 2 a 3. Mae 5 teitl yn rhan o Band 12 ar y thema Ar Wib.
Gall y casgliad hwn o daflenni ffeithiau helpu i lywio sgyrsiau a chefnogi plant a phobl ifanc os ydych yn pryderu y gallent fod yn defnyddio'r we dywyll. Mae'n addas ar gyfer rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr.
Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth yw'r we dywyll, pam ei bod yn cael ei defnyddio a'r risgiau dan sylw, ynghyd â chyngor i blant a phobl ifanc.
Mae Teipio Testun yn weithgaredd hygyrch ar y we i gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol wrth ddysgu i deipio gyffwrdd (touch type). Mae'n cyflwyno llinell o destun i'r dysgwr deipio; arwydd ar fysellfwrdd o'r allwedd i'w bwyso ac arwydd o'r bys i'w ddefnyddio. Mae'n cynnig cymorth ychwanegol ar adegau allweddol fel dysgu teipio priflythrennau a theipio llythrennau acennog fel â ê ô.
Adnodd i roi hyder i athrawon gynnal sesiynau am gysylltu â natur. Mae'n cynnwys fframwaith syml a hyblyg, cysylltiadau â'r cwricwlwm, ac adnoddau defnyddiol ar y we.
Astudiaeth achos yn dangos sut y mae ardal bach o goncrid a darn o dir diffaith wedi cael eu trawsnewid i greu man cyffrous i blant ei archwilio a’i fwynhau.
Astudiaeth achos yn dangos sut y trawsnewidiodd Ysgol Gynradd Darran Park wersi hanes lleol trwy ddefnyddio Minecraft i ddod â stori hamdden ac adloniant yn eu cymuned yn fyw, gan hefyd ennyn chwilfrydedd a hyder dysgwyr mewn codio trwy adeiladu byd trochol ac ymarferol. Addas ar gyfer dysgwyr yng Nghamau cynnydd 2 i 4.
CA4 - Cenedlaethol a Sylfaen. Gweithgareddau ac adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015. Mae’r adnoddau'n cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.
Bwriad yr adnoddau hyn yw cefnogi dysgwyr sy'n astudio Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch (Uned 4: Shakespere). Maent yn ymdrin ag Adran A (Darn Shakespeare) ac Adran B (Traethawd Shakespeare) o gymhwyster CBAC ac fe'u cynlluniwyd i'w defnyddio'n annibynnol fel canllawiau adolygu.
Nod prosiect ‘Cerdded gyda Dŵr’ yw ysbrydoli dysgwyr i archwilio’r mannau y daw dŵr ohonynt, megis afonydd, nentydd a chronfeydd dŵr. Yn y llyfryn gweithgareddau hwn, fe welwch chi ffeithiau diddorol am ddŵr, cynghorion am sut i helpu’r amgylchedd heb adael eich cartref, a chanllaw hwyliog i’r holl bethau rhyfeddol y gallwch chwilio amdanynt ar eich antur ‘Cerdded gyda Dŵr’.
Mae'r artist Marion Cheung yn eich tywys trwy'r broses o greu gweithiau celf haenog, gwneud blociau print ac ychwanegu printiau heb fod angen inciau neu adnoddau drud. I gael y gorau o'r gweithdy hwn, cymerwch amser i baratoi rhai defnyddiau ymlaen llaw a lawrlwythwch y dogfennau adnoddau cyn dechrau'r dosbarth. Addas ar gyfer dysgwyr yng Nghamau cynnydd 4 a 5.
Mae’r adnodd hwn yn darparu cyfarwyddiadau syml i ddysgwyr 9 i 14 oed ar gyfer codio gêm llaw sefydlog gan ddefnyddio micro:bit. Mae dysgwyr yn creu gêm lle mae chwaraewyr yn tywys gwialen ar hyd llwybr heb wneud cyswllt, gan ddatblygu sgiliau codio a datrys problemau.
Menter ddiogelwch wedi'i hanelu at ddysgwyr rhwng 16 ac 18 oed, sy'n rhan o'r rhaglen astudiaethau bugeiliol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Y nod yw cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r angen i baratoi cyn mynd ar wyliau dramor, yn enwedig yr un cyntaf heb eu teuluoedd, a deall yn well sut i gadw'n ddiogel ac osgoi sefyllfaoedd peryglus.
Mae Osiris Educational yn cyflwyno Uwchgynhadledd Addysg y Byd (WES), cynhadledd flynyddol sy'n dod â dros 400 o siaradwyr rhyngwladol at ei gilydd, dros 4 diwrnod byw, gyda mynediad am flwyddyn at ddysgu proffesiynol drwy ei borth Summit Central sy'n cynnwys cannoedd o oriau o ddeunydd.
Mae’r adnodd hwn yn helpu dysgwyr yng Ngham cynnydd 3 i ddeall y gwahaniaeth rhwng y rhyngrwyd a’r We Fyd-eang. Mae’n esbonio sut mae tudalennau gwe yn cael eu cyrchu a’u harddangos, gan gefnogi dealltwriaeth o sut mae gwybodaeth ar-lein yn cael ei rhannu a’i gweld.