Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i werthoedd cyffredin fel:
democratiaeth
gweithredu'r gyfraith
parch at bawb
goddefgarwch i grefyddau a chredoau eraill
Gall rhai mathau o gynnwys ar-lein hyrwyddo ideolegau eithafol.
Radicaleiddio yw pan fydd unigolyn neu grŵp yn mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol a all arwain at derfysgaeth.
Y gwahaniaeth allweddol yw:
mae radicaleiddio yn broses
eithafiaeth yw'r canlyniad a chaiff ei hadlewyrchu yng nghredoau unigolyn
Mae grwpiau eithafol yn aml yn defnyddio'r rhyngrwyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau AI, er mwyn:
cyrraedd cynulleidfaoedd mawr
targedu unigolion a allai fod yn agored i'w negeseuon a'u tactegau o feithrin perthynas gyda'r nod o ddylanwadu arnyn nhw
Mae propaganda terfysgol yn aml yn ecsbloetio'r materion y mae pobl ifanc yn cael trafferth gyda nhw, megis:
hunaniaeth
ffydd
perthyn
Mae eithafwyr yn defnyddio naratifau cynhennus er mwyn creu hunaniaeth 'ni' a 'nhw'. Defnyddir iaith a delweddau emosiynol iawn yn aml i ddenu unigolion i mewn:
gan ogoneddu a chanmol un grŵp
a beirniadu a difrïo grŵp arall
Ymhlith y newidiadau yn ymddygiad pobl ifanc a allai fod yn arwydd o radicaleiddio mae:
newid eu ffrindiau
newid eu hymddangosiad
ymddygiad cyfrinachol neu amharodrwydd i rannu lle maen nhw
gwrthod gwrando ar safbwyntiau amgen
bod yn ddadleuol
anoddefgarwch tuag at bobl sy'n wahanol iddyn nhw
diddordeb mewn damcaniaethau cynllwyn
cydymdeimlad â grwpiau neu ideolegau eithafol
troi at grefydd newydd
edrych ar gynnwys eithafol ar-lein
Mae rhaglen Prevent yn un rhan o strategaeth wrthderfysgaeth gyffredinol y llywodraeth, CONTEST. Gellir dod o hyd i brif egwyddorion Prevent ar GOV.UK. Nod Prevent yw:
mynd i'r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth
ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy'n agored i gael eu radicaleiddio
galluogi'r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ddatgysylltu a rhoi'r peth y tu ôl iddyn nhw
Bwriedir i ganllawiau dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) gael eu defnyddio gan:
uwch dimau arweinyddiaeth mewn awdurdodau penodedig (fel y'u rhestrir yn Rhan 1 o Atodlen 6 o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015) (Saesneg yn unig)
staff sydd â chyfrifoldebau Prevent neu ddiogelu
pobl mewn awdurdodau penodedig sydd â chyfrifoldeb dros reoli adnoddau, cyllid neu bartneriaethau allanol
gweithwyr proffesiynol rheng flaen sydd efallai yn ymgysylltu ag unigolion sy'n agored i gael eu radicaleiddio
Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) ar gael i bob gweithiwr proffesiynol mewn sectorau sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Mae hyn yn cynnwys addysg.
Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu:
dyletswydd Prevent a'i phwrpas
gwahanol fathau o eithafiaeth a therfysgaeth
y risg o ran radicaleiddio a'ch rôl gefnogol chi
atgyfeirio achos o dan Prevent
ymyriadau a chymorth sydd ar gael
Os ydych yn poeni am blentyn yn eich gofal, dylech:
ddilyn prosesau diogelu eich sefydliad, sef sylwi, gwirio a rhannu gyda'ch uwch berson dynodedig ar gyfer amddiffyn plant
rhoi gwybod am eich pryderon gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan
Mae Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein yn darparu gwybodaeth i ymarferwyr am ymatebion i wahanol fathau o gam-drin ar-lein, gan gynnwys radicaleiddio.
Llinell gymorth 24 awr os ydych yn poeni am rywun sy'n agos atoch.
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
Rhaglen e-ddysgu i rieni, gofalwyr ac ymarferwyr ar atal radicaleiddio ar-lein.