Mae bwlio ar-lein yn fwlio drwy dechnoleg neu wasanaethau neu blatfformau ar-lein, er enghraifft:
gemau cyfrifiadurol
y cyfryngau cymdeithasol
AI
gwasanaethau
Gall bwlio ar-lein gynnwys:
ymddygiad bygythiol
camdriniaeth
aflonyddu
cywilyddio
cau allan
dynwared
difrod maleisus
rhannu delweddau neu fideos heb gydsyniad (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan AI)
gorfodaeth
Un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng bwlio ar-lein a bwlio wyneb yn wyneb yw y gall bwlio ar-lein fod yn anodd dianc oddi wrtho. Mae bwlio ar-lein hefyd yn unigryw oherwydd:
mae'n gallu cyrraedd cynulleidfa helaeth mewn ychydig eiliadau
mae ganddo'r potensial i ddenu nifer mawr o bobl
mae'n hawdd 'ailadrodd', gyda sylwadau niweidiol a delweddau yn cael eu rhannu nifer o weithiau
mae ganddo'r potensial i effeithio ar rywun unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos
mae'n gallu cynnig rhywfaint o anhysbysrwydd i'r tramgwyddwyr, sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ffugio bod yn rhywun arall
Gall bwlio ar-lein hefyd fod yn estyniad o fwlio wyneb yn wyneb. Gall technoleg fod yn llwybr arall i aflonyddu ar unigolyn neu grŵp. Gall hefyd fod yn ffordd o ddial ar gyfer rhywun sy'n cael ei fwlio wyneb yn wyneb. Mae bwlio ar-lein yn gallu cael ei wneud gan:
unigolion neu grwpiau sy'n hysbys i'r sawl sy'n cael ei fwlio
pobl nad yw'r sawl sy'n cael ei fwlio erioed wedi eu cyfarfod
Mae elfennau amlwg yn gysylltiedig â bwlio. Gall y rhain fod yn wahanol i ddadl, ymladd neu gweryl rhwng ffrindiau a gallan nhw gynnwys:
bwriad i achosi niwed drwy niweidio neu fychanu
ysu unigolyn arall neu godi ofn arno
ymddygiad ymosodol uniongyrchol
ailadrodd ymddygiad negyddol neu weithredoedd ymosodol
Gallan nhw hefyd gynnwys gweithredoedd anuniongyrchol fel:
lledaenu sïon
datgelu gwybodaeth breifat am rywun
rhannu delweddau personol iawn neu 'ffugiad dwfn'
Hefyd, gall bwlio gynnwys canfyddiad o anghydbwysedd grym, yn aml oherwydd:
oedran
cryfder corfforol
poblogrwydd
gwydnwch seicolegol
Mae'r rhain hefyd yn berthnasol i ymddygiad sy'n aml yn cael ei labelu yn jôc neu gellwair. Os bydd dau ffrind sydd â chanfyddiad o rym cyfartal yn cellweirio â’i gilydd yn aml, nid ystyrir hynny’n fwlio. Fodd bynnag, os bydd un person yn bychanu neu fygwth rhywun arall sydd heb rym i atal hynny ac y bydd y weithred honno yn codi ofn arno, mae hynny'n gyfystyr â bwlio.
Gall bwlio ar-lein gael effaith andwyol a pharhaol ar y person sy'n cael ei fwlio. Gall:
effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu lles a'u hunanhyder
achosi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
Gall targed bwlio ymddwyn fel a ganlyn:
troi'n swil
ymddangos dan straen
dod yn bryderus
bod yn amharod i fynd i'r ysgol neu glybiau chwaraeon a chymdeithasol arferol
cadw draw oddi wrth gyfoedion
ymddangos yn bell ei feddwl
peidio gwneud cystal yn yr ysgol neu'r coleg
osgoi defnyddio technoleg
colli hyder
Gall troseddwr ymddwyn fel a ganlyn:
cau sgriniau pan fydd rhywun arall yn dod i mewn i'r ystafell
defnyddio technoleg yn gyson
ymddangos yn bryderus iawn os na all gael gafael ar dechnoleg
osgoi siarad am yr hyn maen nhw'n ei wneud
defnyddio mwy nag un cyfrif neu gyfrif ffug
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gyda bwlio, mae gwybodaeth yn yr adrannau a ganlyn ynghylch beth i'w wneud a ble i gael help.
Yn egluro beth i'w wneud os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi bwlio.
Canllawiau i'ch helpu i fynd i'r afael â bwlio.
Yn egluro beth yw bwlio, sut i fynd i'r afael ag ef a ble i gael help.
Gwybodaeth am fwlio, gan gynnwys beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich bwlio.