Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae sianel ffrydio S4C ar Hwb yn rhoi mynediad at dros 600 o raglenni Cymraeg sy’n cefnogi addysgu a dysgu ar draws y Cwricwlwm i Gymru.

Caiff y cynnwys ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng S4C, Llywodraeth Cymru, CBAC, Adnodd a’r Educational Recording Agency (ERA), gan helpu i sicrhau ei fod yn berthnasol i’r cwricwlwm ac yn addas i’w ddefnyddio mewn lleoliadau addysgol.

Caiff rhaglenni newydd eu hychwanegu’n rheolaidd i gefnogi addysgu a dysgu ar draws amrywiaeth o bynciau a grwpiau oedran.

Archwiliwch sianel ffrydio S4C

Rhaid i chi fewngofnodi i Hwb i gael mynediad at sianel ffrydio S4C a’i chynnwys.

Ar ôl mewngofnodi, ewch i hafan sianel ffrydio S4C i weld y rhaglenni a chael gwybodaeth am y gwasanaeth. Gallwch hefyd fynd yn syth i: