Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ynghylch dysgwyr preifat

Gweler gwybodaeth am ddysgwyr preifat ar wefan CBAC.

Cefnogaeth ar gyfer arholiadau

Darganfyddwch fideos adolygu Carlam Cymru sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar gyrsiau TGAU CBAC, i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau.

Ewch i weld ystod o adnoddau adolygu gan CBAC a chael mynediad at gyngor ac awgrymiadau ymarferol gan CBAC i'ch helpu wrth adolygu ac wrth baratoi ar gyfer arholiadau.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru ar arholiadau ac asesiadau 2025 i 2026, yn ogystal â'r canllaw i ddysgwyr, sy'n cynnwys dyddiadau pwysig a chyngor defnyddiol.

Y Warant i Bobl Ifanc

P’un a ydych yn chwilio am le mewn coleg, prentisiaeth, cymorth gyda CV neu gyngor ar ddechrau busnes, gall Y Warant i Bobl Ifanc eich helpu i gymryd y cam nesaf.

Dysgwch fwy am Y Warant i Bobl Ifanc ar wefan Cymru’n Gweithio.

Mwy o wybodaeth

Darganfyddwch Arholiadau 360 am fwy o wybodaeth am y system arholiadau yng Nghymru, gan gynnwys sut mae arholiadau'n gweithio, sut mae graddau'n cael eu gosod a beth sy'n digwydd wrth farcio.