Ewch i weld ystod o adnoddau adolygu gan CBAC a chael mynediad at gyngor ac awgrymiadau ymarferol gan CBAC i'ch helpu wrth adolygu ac wrth baratoi ar gyfer arholiadau.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru ar arholiadau ac asesiadau 2025 i 2026, yn ogystal â'r canllaw i ddysgwyr, sy'n cynnwys dyddiadau pwysig a chyngor defnyddiol.
P’un a ydych yn chwilio am le mewn coleg, prentisiaeth, cymorth gyda CV neu gyngor ar ddechrau busnes, gall Y Warant i Bobl Ifanc eich helpu i gymryd y cam nesaf.
Dysgwch fwy am Y Warant i Bobl Ifanc ar wefan Cymru’n Gweithio.
Darganfyddwch Arholiadau 360 am fwy o wybodaeth am y system arholiadau yng Nghymru, gan gynnwys sut mae arholiadau'n gweithio, sut mae graddau'n cael eu gosod a beth sy'n digwydd wrth farcio.