Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Offer iaith Gymraeg

Gall technoleg helpu plant a phobl ifanc i ddarllen, ysgrifennu, cyfathrebu a dysgu yn Gymraeg.

Ymwadiad cyfreithiol

Technoleg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol y Gymraeg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys rhestr o adnoddau technoleg sydd â'r bwriad o'n helpu ni i gyd i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg. Darperir yr adnoddau hyn er diddordeb ac ymwybyddiaeth yn unig.

Nid yw’r rhestr hon yn swyddogol, ac nid yw cynnwys adnodd ar y dudalen hon yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo, yn argymell, yn cymeradwyo’n ffurfiol nac yn ariannu unrhyw gynnyrch, cyflenwr nac adnodd.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi profi, gwirio na gwerthuso effeithiolrwydd, ansawdd, hygyrchedd, addasrwydd, diogelwch na gwerth am arian unrhyw gynnyrch neu adnodd sydd wedi'i gynnwys ar y dudalen hon yn annibynnol.

Dylai defnyddwyr ystyried eu hanghenion eu hunain, eu gofynion hygyrchedd a'u trefniadau caffael a cheisio cyngor proffesiynol, lle bo'n briodol, cyn penderfynu a yw unrhyw gynnyrch neu adnodd yn addas iddynt.

Efallai y bydd cynhyrchion ac adnoddau eraill ar gael hefyd.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd na gweithrediad gwefannau neu adnoddau trydydd parti a geir drwy ddolenni ar y dudalen hon.

Efallai y byddwn yn diweddaru'r rhestr o bryd i'w gilydd, ond nid ydym yn gwarantu bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gyflawn, yn gywir nac yn gyfredol.

Gall yr offer hyn helpu dysgwyr i:

  • wrando ar destun Cymraeg

  • sganio geiriau mewn llyfr neu daflen waith

  • gwneud testun yn fwy neu'n haws ei weld

  • deall geiriau anghyfarwydd

  • ymarfer darllen a ffoneg

Technoleg gynorthwyol

Sut y gall helpu

Lleisiau synthetig dwyieithog Prifysgol Bangor

Lleisiau dwyieithog Cymraeg a Saesneg y gellir eu defnyddio gyda darllenydd sgrin.

Lleisiau Cymraeg synthetig Gwyneth a Geraint

Lleisiau Cymraeg a ddatblygwyd gan RNIB ac IVONA, sydd ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau at ddibenion anfasnachol.

Lleisiau synthetig Cymraeg Microsoft: Nia ac Aled

Lleisiau synthetig Cymraeg sy'n gweithio gyda chynhyrchion Microsoft.

ReadSpeaker

Darllenydd testun-i-leferydd Cymraeg.

C-Pen

Yn sganio testun Cymraeg ac yn ei ddarllen yn uchel drwy glustffonau, gan gynnwys mewn lleoliadau arholiadau a gefnogir.

Darllen.Co

Straeon Cymreig lliwgar i rieni a gofalwyr eu mwynhau gyda phlant bach.

Vocab

Yn dangos cyfieithiad o air Cymraeg anghyfarwydd pan fyddwch yn cyfeirio ato ar dudalen we.

Hir-iaith

Estyniad Chrome sy'n amlygu geiriau Cymraeg i'w gwneud yn haws i ddysgwyr eu deall.